Main content

Cofio'r diweddar Mel Charles

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Trist oedd clywed am farwolaeth Mel Charles y penwythnos diwethaf, yn 81 mlynedd oed. I unrhyw un a gafodd ei fagu ar bêl droed Porthmadog yn y chwedegau, roedd Mel yn arwr.

Hogia Mel, a “Hogia ni” oedd hi ar y Traeth y dyddiau hynny a d’oedd ‘na neb mor enwog erioed wedi dod i chaware i dîm Port. O dan reolaeth Ifor Roberts, roedd Mel yn gawr ar y Traeth a gosododd y safonau a welodd tîm Port yn ennill cynghrair Gogledd Cymru (d’oedd ‘na ddim cynghrair cenedlaethol yr adeg hynny) am rai blynyddoedd i ddod.

Mae’n debyg y dylwn gyffesu yma fy mod braidd yn genfigennus o'r hyn a ddigwyddodd, a hefyd wedi pwdu ychydig gan fod y mewnlifiad o chwaraewyr o dde Cymru, a hefyd ardal y Potteries yn Lloegr wedi golygu ei bod yn fwy anodd i chwaraewyr ifanc fel fi gael ein lle yn nhîm Port.

Ond dyna ni, roeddem i gyd yn meddwl ein bod yn well nag oeddem y dyddiau hynny ond roeddem yn gallu ymarfer gyda thim Port a chael ein hergwd gan Mel i bob cyfeiriad! Fodd bynnag, fe gefais y cyfle i ymuno a chlwb y Bermo yng nghynghrair Canolbarth Cymru, ac ar b’nawn hyfryd o fis Ionawr 1967 gallwch ddychmygu fy nghynnwrf wrth chwarae i'r Bermo yn erbyn Port gan gynnwys Mel, a phawb arall, ar y Traeth mewn gem gwpan.

Dwi ddim y cofio llawer, ond 2-1 i Port oedd y sgôr, ac ia, mi roedd Mel yn gawr go iawn a finnau’n olwr yn mesur ddim mwy na phum troedfedd wyth modfedd.

Cychwynnodd Mel ei yrfa broffesiynol gydag Abertawe (ar ôl cyfnod byr yn Leeds United ) yn 1952. Treuliodd saith mlynedd yn yr Ail Adran gyda'r Elyrch, symud am £42,750 i Arsenal yn 1959. Arhosodd yno am dri thymor, ond cafodd ei amser yno ei amharu gan nifer o anafiadau ac ym mis Chwefror 1962 cafodd ei werthu i Ddinas Caerdydd am ffi o £ 28,500.

Treuliodd dair blynedd gyda Chaerdydd, ble’r enillodd Gwpan Cymru ym 1964 (ei unig anrhydedd yn y cartref) cyn iddo ymuno a thîm Porthmadog yng Nghynghrair Cymru yn 1965 yn ôl hunan gofiant Mel, y derbyniodd gyflog a oedd yn fwy nag a dalwyd Arsenal na Chaerdydd iddo! .

Er i Mel fwynhau ei amser yng Ngogledd Cymru, penderfynodd na allai wrthod cynnig i ddychwelyd i'r Gynghrair Bêl-droed gan Port Vale, a oedd o dan reolaeth Stanley Matthews.

Talodd Port Vale ffi o £1,250 i Port a chwaraeodd Mel ei gem gyntaf, yn ôl yng nghynghrair Lloegr, yn erbyn Crewe Alexandra ar y 3ydd o Chwefror 1967. Yna, parhaodd y teithiau, ymlaen i Groesoswallt ym Mai 1967 cyn symud ymlaen i Hwlffordd flwyddyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mwynhaodd ei amser yn Sir Benfro, ac aeth ymlaen i chwarae yn agos at 200 o gemau i Hwlffordd, yn bennaf fel canolwr. Gadawodd y clwb yn 1972 i ddychwelyd i'r Cwmbwrla yn ardal Abertawe, ble y sefydlodd dîm amatur Cwmfelin.

Yn ogystal â’i yrfa gyda nifer o glybiau, bu Mel yn gapten ar dîm cenedlaethol Cymru, ac fel ei frawd John, roedd yn aelod o dîm Cymru yn ffeinal Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958. Chwaraeodd mewn wyth Pencampwriaeth Gwledydd Prydain, ac mae’n un o ddim ond tri Chymro i sgorio pedair gôl mewn gêm pan sgoriodd yr holl goliau mewn buddugoliaeth o 4-0 dros Ogledd Iwerddon.

Enillodd 31 o gapiau rhyngwladol, sgoriodd chwe gôl rhyngwladol, a un ymddangosiad i'r tîm o dan 23 oed.

Diolch Mel am yr atgofion a diolch am ddangos safon a roddodd ysbardun gwelliant i ni, ar ddyddiau melys, hiraethus ar y Traeth mor bell yn ôl .

Cwsg yn dawel.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i ddysgwyr - Medi 10fed - 16eg

Nesaf