Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr - Medi 10fed - 16eg

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Aled Hughes - Keith Morris

cofnodi - to record
hap a damwain - by accident
crisialu teimladau - to encapsulate the emotions
cusanu - kissing
wedi ei llwyfanu - staged
delweddau - images
rhyddhad a dathlu - relief and celebration
cyfarwyddo - to direct
ymateb - response
meithrin sgiliau - to nurture skills

"...mae'n siwr bod Aled Hughes wedi cael digon o amser i ymlacio pan oedd o ar ei wyliau, ond mae o yn ôl rwan ac mae o am feicio o Abertawe yr holl ffordd i Landudno i godi arian at Plant mewn Angen. Pob lwc iddo fo ar yr ymarfer ynde! Ond bore Gwener mi fuodd Aled yn siarad efo’r ffotograffydd Keith Morris. Mi fuodd Greta Friedman farw yr wythnos diwetha sef y ddynes oedd yn un o luniau mwyaf eiconic yr ugeinfed ganrif. Dyma Aled a Keith i roi rhagor o hanes y llun..."

Ar Y Marc - Guardiola

rheolwr - manager
cefnogi - to support
Brenin y Sêr - The King of the Stars
dipyn o enw - quite a name
poblogaidd - popular
yr adeg hyn - this time
anhygoel - incredible

"Aled Hughes a Keith Morris yn siarad am Greta Friedman a'r llun enwog ohoni. Os dach chi'n ffan pêl-droed mi fyddwch chi'n siwr o wybod bod tîm Manchester City wedi cael rheolwr newydd - Pep Guardiola, ac mae ffans Man City wrth eu boddau efo fo. Mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo Jack Birch, bachgen tair ar ddeg oed o Groeslon, sydd yn cefnogi'r tîm o Fanceinion. Pan oedd Jack ar ei wyliau yn Orlando ychydig o wythnosau'n ôl mi gafodd o dipyn o sioc wrth wylio gêm Man City yn erbyn Stoke, a dyma i chi pam... "


Elan Evans - Steffan Alun

cyflwyno - presenting
doniol - amusing
trafod - discssing
pwyslais - emphasis
cwrdd - cyfarfod
cyffrous - exciting
cyfnod - period(of time)
rhyfedd - strange
cynulleidfa - audience
diflasu - to become bored

"...a dyna ni , gobeithio bod Pep Guardiola yn sylweddoli mai bachgen o Groeslon ddechreuodd ei gân arbennig ynde? Nos Iau mi oedd Elan Evans yn cadw sedd Huw Stevens yn gynnes. Mae Elen yn un o’r cyflwynwyr newydd fydd yn rhan o Radio Cymru MWY gychwynodd ddydd Gwener diwetha. Mi fuodd Elan yn holi rhywun arall sydd yn rhan o dîm Radio Cymru Mwy sef y comedïwr Steffan Alun. Sut oedd y ddau yn teimlo tybed ychydig ddyddiau cyn cychwyn?"

Geraint Lloyd - Tynnu'r Gelyn

Tynnu'r gelyn - Tug of War
ieuenctid - youth
glynnu - sticking
tipyn o gamp - quite a feat
profiadol - experienced
meched hyn - older girls
pencampwriaethau'r byd. - world championship
unfed ar ddeg - eleventh
cyfarwyddo - to become used to
tir - ground

" ...ac mi fydd yn bosib gwrando ar y gwasanaeth newydd dros dro yma, Radio Cymru MWY, ar wefan Radio Cymru, iplayer Radio ac ar DAB yn y De Ddwyrain. Am Dynnu'r Gelyn buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio efo Carys Haf o Landdewi Brefi a hynny am reswm da iawn. Roedd Carys yn rhan o dîm Cymru fuodd yn cystadlu yn Sweden yn ddiwddar. Dyma Carys yn dweud sut aeth petha draw yno...

"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Diffyg creadigrwydd AC Milan

Nesaf

Cofio'r diweddar Mel Charles