Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mai 25-31 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf


Taro'r Post - Lynwen Harrington

hyrwyddo dwyieithrwydd - promoting bilingualism
ar un adeg - at one time
colli hyder - losing confidence
datblygu sgiliau - developing skills
llysgennad - ambassador
ar draws yr hewl (heol) - across the road
gwrthod - to refuse
stwr enfawr - a huge row

Gan ei bod yn ddiwrnod Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth diwetha, dysgu Cymraeg oedd thema Taro'r Post.

Gwaith Lynwen Harrington ydy hyrwyddo dwyieithrwydd yng Ngholeg Merthyr ond fel cawn ni glywed mewn sgwrs gyda Garry Owen, ar un adeg doedd hi ddim yn rhy hoff o'r Gymraeg.


Eisteddfod Yr Urdd - Gwobr Goffa Bobi Jones

Gwobr Goffa - Memorial Prize
oedd yn cael ei chyflwyno - was being presented
newydd sbon - brand new
sylfaenydd - founder
disgybl - pupil
trwy gyfrwng - through the medium of
be mae o'n olygu? - what does it mean?
yn falch - proud
parhau - to continue
ieithydd - linguist

Mae'n dda bod Lynwen Harrington wedi newid ei meddwl am y Gymraeg yn tydy, a hithau'n gwneud gwaith pwysig dros yr iaith yn ardal Merthyr.

Nid Medal y Dysgwyr oedd yr unig wobr i ddysgwyr oedd yn cael ei chyflwyno yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Roedd yna wobr newydd sbon er cof am y bardd Bobi Jones.

Fo oedd sylfaenydd mudiad Cymdeithas y Dysgwyr, neu CYD, ac roedd wastad yn gefnogol iawn i ddysgwyr.

Gwobr oedd hon i ddysgwyr dan 19 oed ac mi gafodd Nia Lloyd Jones sgwrs efo'r enillydd Adam Williams o Fagwyr, Mynwy.


Eisteddfod Yr Urdd - Ryan Giggs

cyhoeddi carfan Cymru - announcing the Welsh squad
gwerthfawrogi - appreciate
pwyslais - emphasis
Ymddiriedolaeth - Trust
ieuenctid - youth
diwylliannol - cultural
ymfalchio - taking pride in
cynhadledd i'r wasg - press conference
llwyfan - stage
o nerth i nerth - from strength to strength

Ac mi wnawn ni aros efo Eisteddfod yr Urdd yn y clip nesa 'ma.

Roedd Ryan Giggs yn y 'Steddfod ddydd Mercher yn cyhoeddi carfan Cymru a chafodd Nia Lloyd Jones sgwrs gyda fo, Ian Gwyn Hughes ac Osian Roberts.

Dyma flas ar y sgyrsiau gydag Ian ac Osian.


Beti a'i Phobol - Elin Fouladi

cantores - female singer
traddodiadol - traditional
rhannu'r atgofion - sharing the memories
llawdriniaeth - surgery
rheolau - rules
cerddoriaeth - music
y gwirionedd - the truth
gelyn - enemy
cyfryngau - the media

Ian Gwyn Hughes ac Osian Roberts o Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn fan'na yn siarad o faes Eisteddfod yr Urdd.

Elin Fouladi (sy'n perfformio fel y gantores El Parisa) oedd yn sgwrsio efo Beti George ddydd Sul.

Mae ei mam yn dod o Lanuwchllyn a'i thad yn dod o Iran yn wreiddiol.

Mae hi'n cofio ei thad yn canu caneuon traddodiadol Iran pan oedd hi'n blentyn.

Dyma hi'n rhannu'r atgofion.


Aled Hughes - Protein

cyngor gwahanol - differt advice
ymddangos yn gyson - appears regularly
ymwybodol - aware
arenol - of the kidney
clefyd y galon - heart disease
brasder - fat
cigoedd wei eu halltu - salted meat
cynyddu - to increase
pwysedd gwaed - blood pressure
ffynonellau - sources

Ydan ni'n bwyta gormod o brotein, neu ydan ni'n bwyta gormod o carbs?

Mae yna gyngor gwahanol yn ymddangos yn gyson iawn yn does?

Dyma oedd gan y dietegydd Ffion Hughes i'w ddweud am beryglon y diet 'protein uchel, carb isel'.

 

Geraint Lloyd - Elen Jones-Evans

Rhufain - Rome
ddim mor gyfarwydd â hynny - not all that familiar
Eidaleg a Bywydeg - Italian and Biology
gwaith ymchwil - research work
arwain y ffordd - leading the way
eitha rhyngwladol - fairly international
y dynfa - the pull
yr hyna - the oldest

Felly byddwch yn ofalus gyda diet 'protein uchel, carb isel' ydy cyngor Ffion Hughes.

Mae Elen Jones-Evans yn dod o Landyrnog ger Dinbych yn wreiddiol ond mae'n byw yn yr Eidal ers ugain mlynedd.

Ar hyn o bryd mae ei chartref hi yn Nettwo tref ar lan y môr, tua 50 milltir i'r de o Rufain.

Pam aeth hi i'r Eidal yn y lle cyntaf?

Dyna oedd cwestiwn Geraint Lloyd iddi hi ddydd Iau.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf