Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 16/03/2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Modryb Marged

y Caribî - The Caribbean
gwres - heat
ynysoedd - islands
hardd - beautiful
cysylltiad - connection
tawel - quiet
yn galed fel haearn Sbaen (idiom) - extremely hard
golles i bwysau - I lost weight
dod i arfer - to get used to

"...weithiau mae rhaglen Bore Cothi yn sgwrsio efo rhywun sydd yn gant oed, a'r wythnos diwetha cafodd Shan sgwrs ddiddorol iawn efo Margaret Jones fydd yn gant oed ar Ebrill yr ail eleni. Mae Margaret, neu Modryb Marged i bawb, yn byw yn y Caribî ond yn dod yn wreiddiol o ardal Pwllheli, ac fel cawn ni glywed mae hi'n berson bywiog iawn..."

Dewi Llwyd - Chris Needs

sylweddoli - to realise
hoyw - gay
rhywioldeb - sexuality
dim clem - no idea
yn gwmws - exactly
gwastraffu - wasting
cwato - hiding
hunanagofiant - autobiography
y cyfandir - the continent
Iseldiroedd - Netherlands

"Wel dyna i chi gymeriad ynde? Modryb Marged o Bwllheli, bron yn gant oed ac yn mwynhau'r Caribî, heblaw am y bwyd wrth gwrs! Bob nos am ddeg o'r gloch ar Radio Wales mi glywch chi raglen boblogaidd Chris Needs. Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghwm Afan yn Ne Cymru a fo oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd, ddydd Sul diwetha. Buodd o'n sôn yn onest iawn efo Dewi am ei blentyndod, am yr adeg daeth i sylweddoli ei fod yn hoyw, ac am y problemau gafodd o yng Nghymru oherwydd ei rywioldeb…"


Rhaglen Dylan Jones - Balwn 1

arbrawf - experiment
Pennaeth Daearyddiaeth - Head of Geography
chwalodd y balwn - the baloon burst
ddôth i orffwys - it came to rest
gofod - space
cloch - bell
hel gwair - gathering hay
mewn darnau - in pieces
uchder - height
rhaff - rope

"Chris Needs, gwestai penblwydd Dewi Llwyd, yn sôn ychydig am adeg digon anodd yn ei fywyd. Yn ôl ym mis Gorffennaf diwetha mi wnaeth disgyblion Ysgol y Moelwyn Blaenau Ffestiniog arbrawf diddorol iawn. Wnaethon nhw anfon balwn helium chwe troedfedd o faint, drideg cilomedr i fyny i'r stratosphere. Roedd rhaid lansio'r balwn o dref Rhaeadr yng Nghanolbarth Cymru oherwydd cyfeiriad y gwynt. Mae sawl tro i'r stori yma - a dyma Gareth Davies Pennaeth Daearyddiaeth yr ysgol yn dweud yr hanes ..."


Rhaglen Dylan Jones - Balwn 2

diweddglo - ending
wedi dod i'r fei - has appeared
ongl - angle
llynnoedd - lakes
haen uchaf y cymylau - highest layer of the clouds
awyrennau - airplanes
glanio - landing
cynhesu - warming
gwlith - dew
cynyddu - increasing

"Felly efo'r camera ar goll, doedd dim llawer o bwrpas wedi bod i'r arbrawf nac oedd?. Bechod ynde? Ond nid dyna ddiwedd y stori, mae na lawer iawn mwy i'w ddweud. Tybed oes yna ddiweddglo hapus i'r stori wedi'r cwbl?... "

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 08/03/2016

Nesaf

Cydnabyddiaeth i Trefor Lloyd Hughes