Main content

Cydnabyddiaeth i Trefor Lloyd Hughes

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cyfarfod cyntaf llywydd newydd Fifa, Gianni Infantino, oedd yng Nghaerdydd pan gyfarfu panel rheolau’r gymdeithas i wirio a diweddaru agweddau o reolau’r gêm ar gyfer y dyfodol.

Ond, un o ddyletswyddau cyntaf Llywydd newydd FIFA oedd cydnabod cyfraniadau gwerthfawr un aelod o’r panel, sef cyn Lywydd Cymdeithas Bel Droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes, i'r gêm yn gyffredinol, nid yn unig yma yng Nghymru ond hefyd ar hyd a lled y byd dros y blynyddoedd. Yn ogystal â chydnabod cyfraniadau Trefor, rhoddwyd sylw hefyd i aelod hir oes o Gymdeithas Cymru a chyn llywydd arall, sef Phil Pritchard o’r Trallwng, sydd ymysg ei gyfrifoldebau, wedi eistedd ar banel disgyblaeth FIFA. Dim ond pedwar neu bump o bobol o Gymru  sydd erioed wedi cael yr anrhydedd yma gan FIFA. Tipyn o ganmoliaeth a pharch felly i'r ddau Gymro am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd.

Ers ei ddyddiau cynnar ynghlwm a phêl droed ar Ynys Môn, mae Trefor Lloyd Hughes wedi cadw yn driw i'w argyhoeddiad fod angen gwneud cymaint ag sydd bosibl i ddatblygu gem ar lefelau lleol, gyda phwysais ar ddatblygu cyrsiau a chyfleoedd hyfforddiant a fagai ar well gyfleusterau a gwell chwaraewyr. Does fawr o syndod felly fod is reolwr tîm Cymru, Osian Roberts, wedi cyfrannu cymaint at ein llwyddiannau presennol i nifer o'n timau cenedlaethol, hefyd wedi ei fagu ar yr ynys!

Bu Trefor hefyd, yn ei swydd fel ysgrifennydd Cymdeithas Bel Droed Arfordir Cymru, yn allweddol wrth ddatblygu mesurau a chanllawiau allweddol pwysig ar gyfer diogelu plant a fewn y byd pêl droed.

Wrth ddal y swydd o Lywydd Cymdeithas Bel Droed Cymru, mae cyfraniad Trefor i gynyddu'r defnydd o Gymraeg, a hefyd i Gymreigeiddio llawer o agweddau eraill o waith y gymdeithas wedi bod yn nodwedd ragorol o’i gyfraniad, nid yn unig ar y gêm yma yng Nghymru, ond at sicrhau fod gwledydd eraill yn cydnabod annibyniaeth Cymru o fewn y gêm. Enghraifft dda o hyn oedd y defnydd o Gymraeg yn y trefniadau swyddogol ar gyfer gem Super Cup Ewrop yng Nghaerdydd yn 2014 rhwng Real Madrid a Sevilla.

Heblaw cynnal y gêm fawreddog yma, llwyddodd y Gymdeithas, o dan lywyddiaeth Trefor, i sicrhau y byddai UEFA yn cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn stadiwm y Principality yng Nghaerdydd yn 2017. Yn ogystal â chynnal y ffeinal Ewropeaidd yma  ar Sadwrn 3 Mehefin bydd Caerdydd hefyd yn cynnal ffeinal Cynghrair Pencampwyr y Merched ddeuddydd ynghynt yn y stadiwm.

O dan ei lywyddiaeth gwelwyd Cymru yn cynnal ffeinals cystadleuaeth ryngwladol UEFA ar gyfer merched o dan 19 oed, yn Sir Gaerfyrddin. Bu’r  lleoliad yma yn hwb i ddatblygu gem y merched yng Nghymru, ac unwaith eto llwyddwyd i dynnu sylw'r byd pêl droed i'r digwyddiadau yng ngorllewin Cymru.

Sicrhawyd canolfan datblygu cenedlaethol newydd i dimau Cymru ymarfer ynddi,  sydd yn cynnwys adnoddau a thechnoleg gyfoes , hyn ym Mharc y Ddraig ger Casnewydd.

Yn ogystal, mae’r ganmoliaeth sydd yn cael ei roi i gyrsiau hyfforddiant Cymru, yn enwedig gan gewri'r gêm fel hyfforddwr New York City, Patrick Viera (gynt o Manchester City ac Arsenal), ynghyd a Thierry Henry a Roberto Martinez yn esiampl o’r dylanwad positif mae Cymru yn ei gael ar y gêm yn fyd eang erbyn heddiw.

Rhwng ei gyfraniad i bêl droed yn lleol, yn cychwyn ar gae pêl droed pentref Bodedern, cyn ehangu ar draws gogledd Cymru mewn nifer o swyddi gwirfoddol, mae Trefor wedi dod i gael ei gydnabod fel un o lywodraethwr mwyaf profiadol y gêm yn Ewrop ar draws y byd, ac yn ddylanwadol, fyd eang yn ei gyfraniadau sydd wedi gwella ansawdd  y gêm erbyn heddiw.

Llongyfarchiadau iddo ar ei gydnabyddiaeth gan FIFA a mawr hyderwn y bydd yn parhau i arwain a chynghori o fewn y winllan, a roddwyd iddo i'w warchod a sicrhau treftadaeth dragwyddol fel y cadwer i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 16/03/2016

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 22/03/2016