Main content

Cwpan Y Byd 2026

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra o syndod a welwyd yn y byd pêl droed wrth weld mai Rwsia a Qatar a gafodd eu dewis fel y gwledydd i gynnal rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.

Yna, daeth fwy o syndod eto wrth ddeall fod FIFA yn ystyried ac yn gwahodd ceisiadau ar y cyd (gan hyd at bedwar gwlad sy’n agos at ei gilydd) ar gyfer cynnal ffeinals Cwpan y Byd yn 2026.

Sail yr ymresymiad ydi ceisio magu agwedd bositif tuag at agweddau cynaliadwy a hefyd ystyried fod y gost o gynnal y rowndiau terfynol yn dod yn faich ar un wlad unigol erbyn hyn.

Yn sgil hyn, ymddengys fod yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico ac yn awyddus i gynnal y ffeinals o fewn y datblygiad yma.

Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf dwedodd Victor Montagliani, Llywydd Ffederasiwn Concacaf, sef y rhanbarth mae’r tair gwlad yn perthyn iddo, ei fod yn disgwyl trafodaethau ffurfiol i ddechrau unwaith y bydd rheolau a rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau gael eu cyhoeddi.

Codwyd pryder am y baich ariannol sydd wedi ei gwneud yn fwy anodd i wlad gynnal y ffeinals ar eu liwt eu hunain a hefyd yn sgil y cyhoeddusrwydd sydd wedi, ac yn bodoli, yngl欧n â chyflwr gael rhai o’r stadia sydd wedi cael eu codi yn sydyn ar gyfer y gystadleuaeth. Ymddengys hefyd fod rhai o’r stadia yma yn cael eu gadael yn wag ar ôl i ‘r gemau orffen, neu, fel sy’n cael ystyried yn Qatar, am gael eu dymchwel yn gyfan gwbl.

Fodd bynnag, nid dyma fydd y tro cyntaf i weld y ffeinals yn cael eu rhannu, gan fod cynsail wedi ei osod yn 2002 pan roedd Japan a De Corea yn llwyfannu twrnamaint, a’r farn gyffredinol oedd bod hyn wedi bod yn llwyddiant.

Mae'r syniad yma eisoes wedi cael ei wireddu ymhellach ym Mhencampwriaeth Ewrop, gyda Gwlad Belg a'r Iseldiroedd yn gyd drefnu cystadleuaeth 2000, Awstria a'r Swistir yn 2008 a Gwlad Pwyl ac Ukrain yn 2012.

Erbyn 2020, mae UEFA wedi penderfynu, fel rhan o ddathliadau ei ben-blwydd yn chwe deg, y byddai’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal ar draws Ewrop gyfan mewn tri ar ddeg o ddinasoedd mewn tri ar ddeg o wledydd ar y cyfandir.

Ond, yn ôl at gynllun Cwpan y Byd, ac mae’n ymddangos na fydd yr Unol Dalaethau, Canada a Mecsico am gael popeth iddynt eu hunain gan fod Sweden hefyd yn hoff o’r syniad ac yn ystyried cynnal y gemau drwy gydweithrediad gwledydd eraill Sgandinafia.

Hwyrach fod FIFA yn credu y byddai hyn i gyd yn lleihau'r gost ar y gwledydd o gynnal Cwpan y Byd ar eu liwt eu hunain. Ymddengys, fodd bynnag, nad yw llawer o fudiadau’r cefnogwyr rhyngwladol yn gefnogol iawn i'r syniad gan y byddai'r gost o deithio o un wlad i'r llall yn llawer mwy nac ar hyn o bryd.

Ond dyna ni, pwy sydd yn rhoi unrhyw sylw i farn y cefnogwyr erbyn hyn?

Ar y llaw arall, pwy a 诺yr na fydd yna feini tramgwydd llawer mwy wedi codi erbyn 2026, gan y bydd yna, o bosib, wal enfawr yn ei gwneud yn anodd i unrhyw un deithio o Fecsico i'r Unol Dalaethau!

Ac os fydd Mr Trump yn parhau i wahardd pobol rhag teithio i’r Unol Dalaethau oherwydd eu crefydd, neu drwy wahardd chwaraewyr pêl droed sydd wedi ymweld â, neu chwarae mewn gwlad nad yw yn ei siwtio, does a 诺yr pwy, nac yn wir pa wlad a fyddai’n cael mynediad i gystadlu yn y ffeinals !

Tybed felly a fyddai’n werth i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ystyried cynnal y ffeinals, neu a fydd Brexit erbyn hynny, wedi rhoi terfyn ar y gobaith o'r freuddwyd honno hefyd?

‘Does wybod yr hyn sydd o’n blaenau’r dyddiau yma!

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf