Main content

Gemau Merched Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dydd Llun diwethaf, daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop i ferched a fydd i'w gynnal yn 2017.

Mae Cymru wedi cael eu gosod yng ngr诺p wyth, gyda Norwy, Awstria, Israel a Kazakstan.

Gyda Norwy yn o’r gwledydd gorau a mwyaf datblygedig ym myd pêl droed merched, nid gwaith anodd fydd hi i ferched Cymru lwyddo i gyrraedd y rowndiau terfynol yn yr Iseldiroedd.

Fodd bynnag, mae gobaith realistig yn bodoli yn enwedig o ystyried fod y ddau dîm uchaf ymhob gr诺p yn cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol a fydd yn cynnwys un ar bymtheg o wledydd.

Bydd yn bwysig i Gymru gael cychwyn da y tro yma, gan mai araf fu'r gemau agoriadol yn y gorffennol. Ond erbyn heddiw mae’r tîm yn fwy profiadol gydag amrediad ehangach o ferched sydd a mwy o brofiad o chwarae ar lefel uwch. Gwelais ferched Cymru yn chwarae yn erbyn Israel yn ôl yn ar Gae Ras Prifysgol Glynd诺r Wrecsam mewn gem cymhwyso ar gyfer Ewro 2013, yn ôl ym Mehefin 2012.

Sgoriodd Natasha Harding dair gwaith mewn buddugoliaeth i Gymru o bum gol i ddim yn y gêm honno a bydd perfformiad tebyg yn y gemau cystadleuol a fydd o’u blaenau ar ôl yr haf eu hangen os am lwyddo i gyrraedd yr Iseldiroedd.

Does gen i ddim amheuaeth na fyddant yn llawn mor llwyddiannus eto yn erbyn Israel, ac felly hefyd yn erbyn Kazakstan.

Bydd y gemau yn erbyn Norwy yn rhai anodd ac felly daw'r ddwy gêm yn erbyn Awstria yn rhai a bydd o bosib yn allweddol o fewn y gr诺p.

Tybed fodd bynnag beth a fyddai gobeithion Cymru petai un o brif ferched pêl droed y byd wedi penderfynu chwarae dros ein gwald yn hytrach na’i gwlad enedigol, Canada.

Cafodd Rhian Wilkinson ei magu a'i magu yn Canada ond gan mai Cymraes o fro Morgannwg ydi ei mam, fe fyddai Rhian wedi bod yn gymwys i gynrychioli Cymru.

Ond gyda phêl droed i ferched yn gêm mor gryf a phoblogaidd dros For yr Iwerydd, doedd fawr o siawns i hynny ddigwydd.

Beth felly ydi colled Cymru ?

Ar ôl cwblhau ei chyfnod ym mhrifysgol Tennessee yn yr Unol Daleithiau aeth Rhian ymlaen i chaware yn breyffesiynol gyad thimau Ottawau Fury yng Nghanada, cyn ymuno a thîm Strommen yn Norwy, ble y bu am saith mlynedd, cyn symud yn ôl i’r Unol Daleithiau a Chanada .

Hyd yn hyn mae hi wedi chwarae dros gant a hanner o gemau rhyngwladol i'w gwlad gan ennill y fedal efydd yng ngemau Olympaidd Llundain, a’r fedal aur yng ngemau Pan Americanaidd. Tipyn o allu i rywun a fyddai wedi gallu chwarae i Gymru. Ond er ei ffyddlondeb i'w gwlad mae Rhian yn hoff iawn o Gymru ac yn agos iawn at ei theulu a’i ffrindiau yn ardal y Bontfaen (ble mynychodd Rhian yr ysgol gynradd am ryw ddwy flynedd)

Ond yn ôl at y presennol , bydd gobeithion merched Cymru yn weddol uchel y tro yma, mawr hyderwn y medrwn edrych ymlaen at y gemau a fydd yn cychwyn ddechrau mis Medi gyda threfn y gemau eto i’w penderfynu.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyfrwng Cerddoriaeth - daeargryn digidol