Main content

Ffair y Motorpoint Arena

Owain Gruffudd

Gohebydd WOMEX

Y Motorpoint Arena yw’r lle i gynhadleddwyr WOMEX fod yn ystod y dydd wythnos yma. Dyma lle mae’r cyfle i bobl rwydweithio â phobl o amgylch y byd, wrth fynd o gwmpas gwahanol stondinau yn y prif neuadd.

Oedd hi’n grêt gallu cyfarfod nifer o bobl o gefndiroedd gwahanol – o gyflwynydd radio yng Ngwlad Pwyl i ddyn o Iwerddon oedd yn awyddus i wneud rhaglen ddogfen am y Sîn Roc Gymraeg. Anaml mae cyfle i gyfarthrebu fel hyn yn digwydd.

Wrth gwrs mae nifer o fandiau ac artistiaid gwerin o Gymru sydd ddim wedi cael cyfle i chwarae yn ystod yr ŵyl – Calan, Plu, Brigyn, Cowbois Rhos Botwnnog i enwi dim ond pedwar. Ond mae’r gynhadledd yma yn gyfle i’r artistiaid yma allu rhoi eu hunain ar y farchnad ac o bosib i gael cynigion i fynd dramor i berfformio. Roedd nifer o hyrwyddwyr yn rhannu CDs allan i’r holl newyddiadurwyr a threfnwyr gwyliau oedd yn mynychu felly roeddwn yn falch gweld pobl fel Cowbois Rhos Botwnnog yn cael y cyfle yma i rannu eu cerddoriaeth â’r byd. 

Ond nid siarad a rhwydweithio yw’r unig beth sydd i’w wneud yn ystod y dydd yn y Motorpoint. Mae nifer o ffilmiau, trafodaethau a pherfformiadau yn digwydd hefyd.

Ges i gyfle i ddal un o’r perfformiadau mwyaf diddorol ddoe, gyda cyfweliad a set gan April Verch o Ganada. Roedd hi’n dipyn o olygfa i weld merch oedd yn gallu canu, chwarae’r ffidl a clocsio – ac ar adegau yn gwneud dau ohonynt ar unwaith! Ond be wnaeth fy nharo i fwyaf oedd fod y cyfweliad cyn ei set yn rhoi cefndir i’w cherddoriaeth. Roedd hi’n dda fod y gynulleidfa yn gallu dod yn gyfarwydd â hanes ei cherddoriaeth a dod i ddeall gwraidd y math yma o berfformio oedd yn arbennig o Gymoedd Ontario. Diddorol iawn!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Sesiwn Fach yn Womex 2013

Nesaf

Sesiwn Fach: Dydd Sadwrn yn Womex