Main content

Copa Am茅rica 2019

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Prynhawn Sadwrn bydd cystadleuaeth pêl droed y Copa America yn cychwyn, pan fydd Brasil (sydd yn cynnal y gemau) yn wynebu Bolivia am hanner awr wedi un y bore (ein hamser ni) cyn i Venezuela wynebu Periw am wyth y nos, a’r Ariannin yn chwarae yn erbyn Colombia am un ar ddeg y nos.

Yn dilyn y chwalfa yng Nghwpan y Byd pan gollodd Brasil o saith gol i un yn y rownd gyn derfynol yn erbyn yr Almaen bum mlynedd yn ôl, nid yw Brasil wedi llwyddo i gamu ymhellach na rownd yr wyth olaf yn y dair cystadleuaeth o’r Copa America ers hynny.

Ar y llaw arall, maent wedi ennill pob un o'r cystadlaethau sydd wedi cael eu cynnal yn eu gwlad eu hunain. Felly mae tipyn o bwysau ar y bois o Frasil dros y mis nesaf!

Tra mae llawer o'r gwledydd eraill yn barod i arbrofi gyda chwaraewyr newydd, dibrofiad ar lefel rhyngwladol, nid felly Brasil.

Gydag un o'u prif chwaraewyr, Neymar, yn absennol oherwydd anaf, mae Tite (rheolwr Brasil) wedi penderfynu galw chwaraewyr profiadol i'r garfan .

Yn sgil hyn, cawn weld Daniel Alves (Paris St Germain) yn ôl, ynghyd a Fernandinho (Manchester City) , ac mae lle Neymar yn y tîm yn debygol o gael ei gymryd nid gan rywun arall ifanc ac addawol, ond gan Willian o Chelsea .

Ar y llaw arall, mae yna le i rai o'r to ifanc sydd wedi gwneud enwau iddynt eu hunain eleni, fel Gabriel Jesus o Manchester City, Richarlison o Everton, a David Neres sydd wedi tynnu sylw iddo’i hun gyda thîm Ajax Amsterdam.

Yna, ni ellir anwybyddu'r Ariannin gyda Messi yn barod i'w harwain, ac yn chwilio am gyfle i ychwanegu at y fedal aur a enillodd yng Nghwpan y Byd i chwaraewyr o dan 20 oed, a’r un a enillwyd yn y Gemau Olympaidd.

Wrth ei ochr fe fydd Sergio Aguero (y prif sgoriwr erioed yn hanes Manchester City) a bydd y drindod ar y blaen yn cael ei gwblhau gan Angel di Maria, sydd er waethaf y siom a brofwyd yn Manchester United, yn parhau i greu trafferthion o'r asgell i'w wrthwynebwyr - un arall sydd yn ennill ei gyflog gyda Paris St Germain.

Peidier chwaith a diystyrru Uruguay gyda Luis Suarez (Barcelona) Edinson Caviani (Paris St Germain) yn parhau i greu trafferthion i unrhyw dim, tra mae’r blaenwr ifanc, o’u carfan o dan 20 oed, Maxi Gomez o Celta Vigo yn Sbaen yn barod i herio am le yn y tîm, a’r tu cefn iddynt i gyd mae’r amddiffynwr Diego Godin (Atletico Madrid) yn barod i arwain ei wlad i fuddugoliaeth ryngwladol nodedig.

Mae hanes hefyd o blaid Uruguay gan eu bod wedi ennill mwy o gystadlaethau Copa America nac unrhyw wlad arall, a hyn o wlad sydd â fawr fwy o boblogaeth na Chymru!

Tipyn o gystadleuaeth dros yr wythnosau nesaf, gyda'r ffeinal i'w chynnal yn Rio de Janeiro ar ddydd Sul y 7fed o Orffennaf.

Grwpiau Copa America

Grwp A: Brasil, Bolivia, Periw, Venezuela

Grwp B: Yr Ariannin, Colombia, Paraguay, Qatar (tim gwadd)

Grwp C: Ecuador, Japan (tim gwadd), Uruguay a Chile

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf