Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Hydref 22ain-Hydref 28ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

 

Gari Wyn - Technoleg

pobl fentrus - venturesome people
hwylio - to sail
sefydlu - to establish
yn eu dagrau - in their tears
pa driniaeth? - which treatment?
oriawr neu breichled - watch or bracelet
curiad eu calon - their heartbeat
tymheredd eu corff - their body temperature
cynhwysfawr - comprehensive
heb amharu ar - without detriment to

…mae Gari Wyn yn hoff iawn o bobl fentrus, yn enwedig rhai sydd wedi mentro ym myd busnes. Wythnos diwetha buodd o'n siarad efo Elin Haf Davies sydd yn fentrus mewn mwy nag un ffordd. Mae Elin wedi hwylio rhai o foroedd mwya peryglus y byd ond roedd Gari am gael gair efo hi am y cwmni mae hi wedi ei sefydlu yn Llundain. Cwmni ydy hwn sydd yn arbenigo mewn technoleg dach chi'n medru ei wisgo. Dyma Elin yn esbonio mwy ac yn sôn am sut mae'r dechnoleg yma'n medru helpu nyrsys plant...

 

Bore Cothi - Pwmpen

Calan Gaeaf - Halloween
pwmpen - pumpkin
anferthol o fawr - huge
anghrediniol - incredible
hadyn - seed
tyfiant - growth
tail ceffyl - horse manure
gwrtaith - fertilizer
llwglyd - hungry
hau - to sow

Elin Haf Davies yn fan'na yn sôn wrth Gari Wyn am y math o dechnoleg sydd yn medru helpu nyrsys plant yn eu gwaith. Roedd hi'n Galan Gaeaf ddydd Sul a dw i'n siwr eich bod wedi gweld sawl pwmpen o gwmpas y lle. Ond oeddech chi'n gwybod ei bod hi'n ddiwrnod cenedlaethol y bwmpen ddydd Mercher diwetha? Wyddoch chi hefyd bod y bwmpen fwya erioed yn pwyso 2623 pwys? Dyna ydy record y byd ar hyn o bryd. Be fasai maint pwmpen o'r fath tybed? Dyma oedd ateb Medwyn Williams i gwestiwn Shan Cothi...

 

Dwyn i Gof - Bob Roberts Tai’r Felin

cyflwyno - presenting
y cyffiniau - district
be' ar y ddaear - what on earth
cyn gynted â - as soon as
ddim o bwys - not important
cyfeillion - friends
denu - to attract
darllediad - a broadcast
tyrru - flocked
canu fel wennol - singing like a swallow

Tyfu pwmpen yn swnio'n hawdd yntydy, ond i chi wneud yn siwr bod digon o le ganddoch chi ynde? Buodd y canwr a’r baledwr enwog Bob Roberts Tai’r Felin farw chwedeg pump o flynyddoedd yn ôl ac ar raglen gynta cyfres newydd Radio Cymru 'Dwyn i Gof' cafodd Llyr Gwyn Lewis ychydig o'i hanes gan Cledwyn Jones. Roedd Cledwyn yn canu efo Triawd y Coleg a dyma fo'n cofio perfformiad radio cynta Bob Roberts...

 

Gaynor Davies - Archeoloeg

cloddio - to dig
cael eu gorfodi - compelled
dim amharch - no disrespect
creu diddordeb - creating an interest
pridd - soil
canran - percentage
mae 'na ddiben - there is a purpose
celfyddydau - arts
o ran myrath - for the fun of it
bodoli - existing

Hanes Bob Roberts Tai'r Felin yn fan'na yn rhoi dechrau da i'r gyfres 'Dwyn i Gof'. Bach o hanes sy yn y clip nesa 'ma hefyd - wel archeoleg a dweud y gwir. Mae'n bosib gwneud archeoleg fel pwnc lefel 'A' y dyddiau 'ma ond oes gan bobl ifanc ddiddordeb yn y pwnc? Gan fod Aled Hughes yn cael gwyliau bach, Gaynor Davies oedd yn holi Llyr Titus bore Mawrth a dyna oedd y cwestiwn ofynnodd hi iddo fo...

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Llysenwau Clybiau Pel-droed