Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Hydref 15fed-Hydref 21ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

 

Bore Cothi - Gareth Lewis

hunangofiant - autobiography
o'n i ddim yn ystyried - I didn't realise
golwg - sight
yn ara deg - slowly
diodde(f) - to suffer
ffon wen - white stick
ymhen - within
ci tywys - guide dog
cyflwr - condition
ar y pryd - at the time

"...ar raglen Shan Cothi yr wythnos yma mi gafodd Shan sgwrs efo Gareth Lewis neu ella eich bod chi’n ei nabod o'n well fel y cymeriad Meic Pierce yn Pobol y Cwm. Mi roedd Gareth yn y stiwdio i sôn am ei hunangofiant ac mi fuoddshan a garth yn sgwrsio am y gwahanol raglenni teledu buodd Gareth yn actio ynddyn nhw. Ond roedd yna un ffaith bwysig am Gareth oedd yn dipyn o sioc i Shan pan ddarllenodd hi'r llyfr..."

 

Aled Hughes - Snap

arbed bywydau - to save lives
gwledig - rural
goriweddu - to overtake
cul - narrow
symudiad - movement
trwydded yrru - driving license
annog - to encourage
y job g'leta - the hardest job
cwffio - fighting
heb os nag oni bai - without a doubt

"Ychydig o hanes yr actor Gareth Lewis yn fan'na wrth iddo fo sgwrsio efo Shan Cothi. Oes ganddoch chi gamera yn eich car? Wel yn ôl y Sgt Raymond Williams a'r Cynghorydd Sir Gwynedd Aeron Jones, mae'n bwysig i chi gael un i arbed bywydau - ac i gael ysiwrant rhatach! Dyma nhw'n siarad efo Aled Hughes fore Mercher."

 

Etifeddiaeth - Ffotograffiaeth

etifeddiaeth - heritage
adnabyddus - famous
cofnod - a record
llyfr lloffion - scrap-book
nawr ac yn y man - every now and then
hôel eich dylanwad - a mark of your influence
y cyfandir - the continent
etifeddu - to inherit
priodasau - weddings
i raddau - to an extent

"Hmm, dach chi'n gyfforddus efo pobl yn eich ffilmio chi'n dreifio? Ella dylai Gary Owen drafod hwn ar Taro'r Post! Be dach chi'n feddwl? Amser cinio dydd Llun mi wnaethon glywed ail raglen y gyfres newydd 'Etifeddiaeth'. Yn y rhaglen hon mi roedd Sian yn siarad efo Arwel Davies a’i ferch, yr actores Catrin Arwel, sydd wedi dilyn ei thad a chael gyrfa mewn ffotograffiaeth. Ond ydy Catrin cystal â'i thad tybed...?"

 

Aberfan - Profiadau

trychineb - disaster
arferol - usual
yn y fan a'r lle - in the very place
allan o'r cyffedin - out of the ordinary
hawl - a right
cael ein taro - were struck
loriau trymion - heavy lorries
milwyr yn mynd i frwydr - soldiers going to battle
taclau - implements
sylweddoli - to relise

"Arwel yn fan'na yn falch bod ei ferch yn dilyn dilyn yr un llwybr gyrfa ag yntau. Roedd dydd Gwener Hydref 21ain 1966 y ddiwrnod ofnadwy i rieni pentref Aberfan. Dan ni i gyd dwi'n siwr yn gwybod am y drychineb wnaeth daro'r pentre ar y diwrnod ofnadwy hwnnw pan symudodd y mynydd glo a chladdu ysgol gynradd ac undeg wyth o dai yn y pentref. Lladdwyd cant pedwar deg pedwar o bobl, a chant undeg chwech o'r rheini yn blant. Yr wythnos diwetha roedd yna nifer o raglenni ar y teledu a radio i gofio y drychineb a dydd Gwener ar Radio Cymru roedd cyfle i glywed profiad rhai o’r bobl oedd yn y pentre ar y diwrnod ofnadwy hwnnw..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc: Nigel Adkins

Nesaf