Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Absenoldeb Alun

Vaughan Roderick | 10:01, Dydd Iau, 19 Ebrill 2007

Mae 'na lawer o ffwdanu'r bore 'ma ynglŷn â methiant Alun Pugh i fynychu cinio a chyhoeddiad pencampwriaeth UEFA yng Nghaerdydd.

Yn ei ardal ei hun mae'n ddigon posib na fydd na unrhyw niwed i Mr Pugh. Heb os fe fydd Llafur yn lleol yn mynnu bod y penderfyniad yn profi bod Alun yn ddyn sy'n "rhoi ei etholaeth yn gyntaf."

Yn genedlaethol mae 'na fwy o broblem. Hwn yw'r eil dro o fewn ychydig ddyddiau i Lafur golli rheolaeth ar yr agenda. Y tro cyntaf oedd pan wnaeth sylwadau byrfyfyr Rhodri ynglŷn ag Iraq ar Radio Wales ddenu'r holl sylw i ffwrdd o lansiad rhaglen ddeddfwriaethol y Blaid. Rydym wedi arfer erbyn hyn â disgyblaeth haearnaidd gan Lafur yn ystod ymgyrch etholiad, am ryw reswm mae'r drefniadaeth yn baglu y tro hwn.

Yn fwy pwysig efallai, mae'n bosib y bydd absenoldeb Alun yn atgoffa pobol o fethiant y Prif Weinidog i fynychu'r gwasanaethau coffa ar draethau Normandi. Mae Rhodri Morgan wedi cyfaddef mae'r penderfyniad hwnnw yw ei gamgymeriad mwyaf ers dod yn ben ar lywodraeth y cynulliad. Mae'r ffaith bod y pleidiau eraill eisoes yn ei grybwyll wrth ymosod ar Alun yn adrodd cyfrolau am ba mor niweidiol i Rhodri oedd y penderfyniad.

(Gyda llaw, mae un o'm cydweithwyr, Carl Roberts, yn meddwl bod Plaid Cymru yn rhagrithio wrth gyhuddo Alun Pugh o fethu â chyflawni ei ddyletswyddau fel gweinidog tra ar yr un pryd yn cwyno ei fod wedi gosod y llythrennau AC ar ôl ei enw ar ei bosteri. Mae ganddo bwynt. )

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:12 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhys:

    Fydde fi'n meddwl bd yr FAW wedi bod yn ffodus i osgoi araith gan Alun Pugh!

    Roedd cyfarfod cyhoeddus ar ffurf hustings yn Ysgol Gymraeg Treganna nôs Lun, yn trafod dyfodol addysg Gymraeg yng Ngorllewin Caerdydd. Danfonodd un o'r mamau e-bost ataf rhag ofn byddia diddordeb gyda fi (nid fi yw tad ei phlentyn gyda llaw!). Arno roedd enw pawb oedd am fod ar y panel, ac o'r pedwar ymgeisydd, roedd pawb ond Rhodir Morgan am fod yno, roedd o am fod yn ymgyrchu yng NGOGLEDD CYMRU! Sgwn i sut argraff roddodd hynny.

  • 2. Am 14:17 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Hmm..Mae'n amhosib i wneud sylwadau ar dy 'bost' ddiweddaraf.. Felly mi 'wnaf fan hyn. Beth yw'r fersiwn Gymraeg o 'Lies, damned lies and statistics' ?

    Ond os odi pobl yn digon twp i gredu y ffigyrau a'r siartau yma, does fawr ddim gallu di wneud i stopio nhw..

  • 3. Am 14:23 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Dwi'n methu gadael sylwad ar eich post diweddaraf am rhyw reswm. Nid yw'r dudalen yn bodoli?!?

    Beth yw'r dystiolaeth o gam-ddefnyddio ffigyrau a graffiau gan Blaid Cymru yn Aberconwy ac Ogwr?

  • 4. Am 16:09 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Llyr Roberts:

    Dwi'n meddwl bod angen i'r gwrthbleidiau fod yn ofalus peidio canolbwyntio ar bethau rhy bitw - fel ti'n awgrymu dwi'm yn amau y gwnaiff methiant honedig Alun Pugh wneud lles iddo'n lleol trwy roi'r argraff ei fod yn blaenoriaethu ei etholaeth. A rywsut mae ymgyrch Llafur yn teimlo yn fwy gonest ac agored tro hwn oherwydd y diffyg rheolaeth haearnaidd arferol.

  • 5. Am 19:37 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Bedd Gelert a Hedd,

    Dwy'n gobeithio bod y problemau technegol wedi eu datrus. Fy niffyg profiad i wrth flogio sy'n achosi'r rhan fwyaf ohonynt!

    Hedd,

    Mae'r honniadau ynghylch Ogwr ar blog Peter Black. Mae Dylan Jones Evans wedi gwenud sylw ar Blaid Cymru yn Aberconwy rhai dyddiau nol ar y blog yma.

  • 6. Am 01:04 ar 20 Ebrill 2007, ysgrifennodd Guto Bebb:

    Fel ymateb i gwestiwn Hedd gallaf nodi fod Plaid Cymru yn Aberconwy yn bod yn dra anonest. Yr hyn sy'n cael ei ddweud o fewn eu taflenni yw fod yna 72 pleidlais rhyngddynt a Llafur. Wrth gwrs, does dim son am y newid sylweddol yn yr etholaeth sydd wedi gweld tua 18,000 o etholwyr Bangor a Bethesda yn gadael y sedd a rhyw 6,000 yn dod i fewn i'r etholaeth o Nant Conwy. Mae defnyddio canlyniad 2003 mewn etholaeth sydd a dim ond rhyw 57% o'r etholwyr yn cyfateb i etholiad 2003 yn anonest. Ond dyna wleidyddiaeth i chi!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.