Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ti, chi a fi

Vaughan Roderick | 15:44, Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2013


Mae derbyn rhifyn y mis o Barn wastod yn bleser - er taw fy nhasg gyntaf bob mis yw cael cipolwg sydyn i weld os oes 'na straeon neu safbwyntiau i ni eu colli! Dydw i ddim am gyfaddef yn fan hyn a ydy hynny wedi digwydd y tro yma!

Yn hytrach cefais ysbrydoliaeth am bost bach gan golofn Vaughan Hughes lle mae'n cwyno am yr hyn mae'n gweld fel defnydd amhriodol o ti a thithau ar raglenni newyddion Radio Cymru. Dyma ddisgrifiad Vaughan o sgwrs rhwng cyflwynydd â chadeirydd y Bwrdd Iaith.

"Roedd y ti a'r tithau diddiwedd, a chywair dau-fêt-yn-cael-clonc y sgwrs gyfan yn rhoi'r argraff anghysurus i mi fy mod yn clustfeinio ar sgwrs breifat... mae'r defnydd o chi o gymorth i gynnwys y gwrandäwr yn hytrach na'i ddieithrio."

Dydw i ddim yn teimlo'n gryf iawn am y peth ond yn bersonol rwy'n tueddu defnyddio chi gyda ffigyrau cyhoeddus hyd yn oed os ydy'r rheiny'n iau na fi. Ar y llaw arall mae'n gas gen i gael fy ngalw'n chi gan rywun sy'n ti i mi! Safonnau dwbwl efallai - neu arwydd fy mod yn heneiddio!

Ta beth mae'r ddadl ynghylch safonau iaith yn un sy'n digwydd yn gyson yng nghoridorau'r Ö÷²¥´óÐã gyda rhai'n adrodd straeon arswyd am grwpiau ffocws yn cael trafferth i ddeall Cymraeg cymharol syml ac eraill yn mynnu bod yn rhaid tynnu llinell yn rhywle. Mae lle mae'r "rhywle" yna yn gwestiwn arall, wrth gwrs!

Fy nghrwsâd arbennig i yw un i achub y ferf gryno. Efallai bod dyddiau "gallaswn" a "gwybuant" wedi mynd ond gwrthodaf dderbyn bod "Mae Dafydd Jones wedi dweud" yn haws i ddeall na "dywedodd Dafydd Jones". A do, rwyf wedi clywed "mae x wedi dweud" yn cael ei ddefnyddio.

Mewn gwlad sydd wedi methu cytuno'n derfynol ynglŷn ag orgraff ei hiaith ysgrifenedig ar ôl pymtheg can mlynedd efallai ei bod hi'n anorfod bod y darlledwyr yn dal i ymgecru ar ôl cwta dri chwarter canrif!

Mae 'na beryglon wrth symleiddio'r iaith ond ar y llaw arall mae Cymraeg sydd yn orffurfiol ac yn bedantig yn gallu bod yn hyll ac yn ofnnadwy o anodd ei deall.
Roeddwn yn meddwl am hyn wrth wrando ar araith Leighton Andrews yn y ddadl ynghylch safonau iaith ddoe. Roedd hi'n llawn o jargon y gwasanaeth sifil gyda'i geiriau aml sillafog, anghyffredin. Roedden nhw i gyd yna - anghymesuredd, anstatudol, tryloywder a'r gweddill ohonyn nhw.

Mae'r eirfa fiwrocrataidd hon yma'n hyll a chan amlaf yn ddiangen yn Saesneg. Mae ei chyfieithu'n slafaidd i'r Gymraeg ac yna disgwyl i Weinidog sy'n dysgu'r iaith ei defnyddio yn wirion bost.

















SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:08 ar 6 Mawrth 2013, ysgrifennodd cathasturias:

    Dechrau gweld ffurfiau cryno berfau ('dywedodd') yn dod yn fwy gyffredin gan drydarwyr Cymraeg, oherwydd y cyfyngiad ar nifer y llythrennau

  • 2. Am 18:16 ar 6 Mawrth 2013, ysgrifennodd David Bullock:

    I'r sawl sydd â diddordeb, gallwch weld anerchiad gan Gwen Awbery sy'n cyflwyno'r gwahanol fathau o Gymraeg yma:

    Sylwch: nid rant blin (à la Vaughan) am hoff ffurfiau a chas ffurfiau sydd ganddi, ond sylwadau gwrthrychol sy'n egluro beth yw beth.

  • 3. Am 07:57 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Welbru:

    Dwi'n meddwl bod rhaid i'r bobl yma ddeall bod cymdeithas yn gyffredinol yn mynd yn fwy anffurfiol. Faint o bobl sy'n galw Mr X neu Mrs X ar eu penaethiaid yn y gwaith y dyddiau yma? Enwau cyntaf sydd gan bron bawb. Mae'r defnydd o ti yr un fath. Ti oedd pawb i'r Crynwyr gan eu bod yn credu mewn cydraddoldeb cymdeithasol a dwi'n meddwl bod hynny'n beth da.

  • 4. Am 10:13 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Dylan Foster Evans:

    Diolch am y blogiad yma Vaughan. Diddorol clywed am y trafodaethau yn y Ö÷²¥´óÐã. Tybed a yw'r gorfforaeth yn dal i ddefnyddio polisi/canllawiau ffurfiol o ran y defnydd o iaith? Mae cof gen i fod polisi o'r fath wedi ei lunio tua diwedd y 1990au (o leiaf ar gyfer Radio Cymru). A oes defnydd arno o hyd, neu a oes teimlad fod yr oes - a'r iaith - wedi newid ers hynny?

  • 5. Am 11:26 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r canllawiau o hyd yn bodoli - faint o ddefnydd sydd ohonyn nhw sy'n fater arall!

  • 6. Am 23:55 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Andy Bell:

    Mae clywed "ti"mewn cyfweliad ffurfiol yn ymosodiad ar y clustiau. Fyswn i byth yn galw Julia Gillard yn "mate" !
    Yn fwy difrifol, mae twf iaith y biwrocrat cyfiethiedig yn peri gofid ac yn tynnu'r Gymraeg yn bellach oddi wrth y bobl go iawn.
    Yr wyf wedi son am hyn o'r blaen ...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.