Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hyhi

Vaughan Roderick | 13:52, Dydd Mawrth, 9 Ebrill 2013

Mae'n ymddangos bod pob copa walltog yn y byd gwleidyddol wedi cael cyfle i ddweud ei ddweud ynghylch y Farwnes Thatcher yn ystod y pedair awr ar hugain diwethaf. Oes yna unrhyw beth ar ôl i ddweud, dywedwch?

Gormod o bwdin dagiff gi ac efallai eich bod wedi cael hen ddigon erbyn hyn ond rwyf am fentro i'r fei unwaith yn rhagor.

Oscar Wilde piau'r geiriau "all men kill the things they love" a'r cwestiwn sy gen i yw hwn - a wnaeth Margaret Thatcher, yn ddiarwybod iddi ei hun, blannu hadau dinistr y wladwriaeth yr oedd hi'n eu llywodraethu drosti ac oedd yn destun ei gwladgarwch amlwg?

Yr wythnos hon cyhoeddodd lwyth o ohebiaeth rhwng llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain a'r awdurdodau yn Washington. Yn eu plith mae adroddiad o 1976 sy'n dwyn y teitl "The Tories and Devolution" ac yn mynegi pryder ynghylch agwedd Margaret Thatcher, oedd yn arweinydd yr wrthblaid ar y pryd, tuag at ddatganoli grym i Gymru a'r Alban. Dyma mae'n ei ddweud.

"The present difficulty also confirms criticisms of Mrs Thatcher's leadership which were made at the time of her latest shadow cabinet reshuffle, that she was moving the party perceptibly to the right and narrowing the base of the party's appeal... The Tories now appear to be the voice of the English backlash on devolution, increasingly rigid in opposing devolution."

Mae'n anodd credu hyn nawr ond cyn ethol Margaret Thatcher yn arweinydd doedd y Torïaid ddim yn gwbwl penstiff yn erbyn datganoli. Yn wir pe na bai Margaret Thatcher wedi trechu Edward Heath mae'n ddigon posib y byddai Llafur a'r Ceidwadwyr wedi gallu cyrraedd consensws ynghylch datganoli yn y 70au ac y byddai Cynulliadau wedi cael eu sefydlu yn yr Alban a Chymru heb hyd yn oed gofyn i'r cyhoedd l leisio eu barn mewn refferendwm.

Pe bai hynny wedi digwydd ni fyddai cefnogi datganoli wedi troi'n gyfystyr bron a gwrthwynebu Thatcheriaeth yn ystod blynyddoedd ei theyrnasiad. Yn sicr roedd "diogelu Cymru rhag Thatcher arall" yn un o brif ddadleuon ymgyrchwyr dros ddatganoli yn refferendwm 1997.

Yn yr Alban roedd effaith arweinyddiaeth Margaret Thatcher hyd yn oed yn fwy dramatig. Yn Etholiad Cyffredinol 1955 fe enillodd y Blaid Geidwadol dros hanner y pleidleisiau a fwriwyd yn yr Alban. Erbyn hyn mae'n ymylu ar fod yn blaid ymylol - ac yn ystod cyfnod Margaret Thatcher y gwnaed y difrod.

O streic y glowyr i dreth y pen roedd hi fel pe bai Margaret Thatcher yn ceisio cythruddo'r Albanwyr yn fwriadol. Nid dyna oedd ei bwriad ond roedd yn ymddangos felly i lawer. Roedd hyd yn oed yr acen a'r llais yn dân ar groes i rai.

Os ydy'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth flwyddyn nesaf dyna ddiwedd ar y Deyrnas Unedig ar ei ffurf bresennol. Mae hynny'n os go fawr ond mae'n anodd osgoi'r casgliad na fyddai'r os hyd yn oed yn codi oni bai am Margaret Thatcher.

Oni fyddai'n eironig pe bai'r Farwnes Thatcher yn cael ei chofio yn y diwedd nid oherwydd y Falkands na threth y pen na streic y glowyr ond fel bydwraig annibyniaeth yr Alban ac awdur dinistr y deyrnas ?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:05 ar 9 Ebrill 2013, ysgrifennodd Helen Kalliope Smith:

    Eironig iawn - ei phresenoldeb hi yn Rhif 10 a gododd gymaint o ofn ar Gymru a’r Alban, nid yn unig o ran ei gwrthwynebiad i ddatganoli, ond hefyd ei hagwedd tuag at ddiwydiannau trwm ac undebau, nes dinistrio’r wladwriaeth or-ganoledig a oedd mor agos at e chalon.

  • 2. Am 09:38 ar 10 Ebrill 2013, ysgrifennodd Owen:

    A oedd ei gwrthwynebiad hi i ddatganoli wedi treiddio drwy'r rhan fwyaf o'r Cymry a bleidleisiodd yn erbyn datganoli yn 1979? Mae'n anodd credu hynny rhywsut. Ai ton o Geidwadaeth oedd wedi taro'r wlad ar y pryd, yn erbyn grym undebaeth?

  • 3. Am 10:04 ar 10 Ebrill 2013, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yn sicr dydw i ddim yn priodoli canlyniad refferendwm 1979 i Margaret Thatcher. Roedd a wnelo y giang o chwech ac amhoblogrwydd y Llywodraeth fwy a hynny. Awgrymmu'r posibilrwydd y byddai cynulliad wedi ei sefydlu heb refferendwm ydw i. Roedd Heath yn gwyrthwynebu'r egwyddor o gynnal y rheiny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.