Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Llwybr Cul

Vaughan Roderick | 10:49, Dydd Gwener, 1 Mawrth 2013

Rhywle gartref mae gen i lyfr o'r enw "Labour's last chance?: the 1992 election and beyond". Casgliad o draethodau gan rai o'r seffolegwyr gorau Prydain yw'r llyfr ac mae'r teitl yn esbonio'r cynnwys. Ar ôl colli etholiad 1992 pan oedd bron popeth yn gweithio o'i phlaid oedd modd i'r Blaid Lafur ennill byth eto oedd y cwestiwn. Amwys oedd yr atebion.

Cyhoeddwyd y llyfr ym Mai 2004. Llai na thair blynedd yn ddiweddarach enillodd y blaid Lafur y nifer fwyaf o seddi yn ei hanes ac etholwyd Tony Blair yn Brif Weinidog.

Rwy'n codi'r pwynt oherwydd bod cwestiwn digon tebyg yn cael ei ofyn ynghylch y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Os nad oedd hi'n bosib ennill mwyafrif yng ngwyntoedd teg 2010 pa obaith yn y dyfodol?

Yr ateb syml i'r cwestiwn yw wrth gwrs bod hi'n bosib i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif. Yn wir, os nad yw'r blaid yn cwympo'n ddarnau mae hi bron yn sicr o ennill un rhywbryd. Serch hynny mae'r llwybr tuag at fwyafrif yn yr etholiad nesaf yn edrych yn gulach ac yn gulach wrth i ddydd y cyfri agosau.

Y dadansoddiad gorau o broblemau'r Ceidwadwyr mi ddarllen yw gan Paul Goodman cyn aelod seneddol Ceidwadol sy'n un o olygyddion gwefan dylanwadol "Conservative Ö÷²¥´óÐã".

Yn ôl Goodman mae ennill mwyafrif yn 2015 yn amhosib oherwydd pedair ffactor. Methiant y blaid i apelio at leiafrifoedd ethnig, undod yr asgell chwith, rhaniadau ar yr asgell dde ac anfantais strwythurol y map etholiadol yw'r ffactorau hynny.

Mae canlyniad Eastleigh yn cymhlethu'r ddwy ffactor olaf.

Trwy guro'r Ceidwadwyr mae Ukip wedi dwysau'r rhaniadau ar y dde. Mae unrhyw obaith na fydd y blaid honno'n ffactor yn yr etholiad nesaf yn prysur ddiflannu a does dim rhaid iddi wneud chwarter cystal â gwnaeth hi yn Eastleigh er mwyn dylanwadu ar y canlyniadau mewn llwyth o etholaethau ymylol.

O safbwynt y ffactor olaf, y broblem strwythurol, amcangyfrifir y bydd angen i'r Ceidwadwyr bod saith y cant ar y blaen i lafur yn y bleidlais boblogaidd er mwyn sicrhau mwyafrif o un. Mae hynny'n glamp o fynydd - ond mae'r guru etholiadiol Peter Kellner wedi darogan y gallai'r Torïaid sicrhau mwyafrif mewn ras llawer agosach pe baent yn cipio rhyw ddau ddwsin o seddi o'r Democratiaid Rhyddfrydol - seddi tebyg iawn i Eastleigh.

Pa obaith o hynny nawr?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:52 ar 4 Mawrth 2013, ysgrifennodd David:

    "Mai 2004" - ai Mai 1994 dylai hynny fod?

    Post diddorol iawn. Yr eironi yw bod gwrthwynebiad y Ceidwadwyr i ddiwygio'r system etholiadol yn mynd i gostio'r blaid honno'n ddrud. Byddai'r Bleidlais Amgen wedi sicrhau llawer o bleidleiswyr UKIP yn pennu ymgeisydd Ceidwadol yn ail ddewis; ac byddai etholaethau cyfartal wedi dileu'r anhegwch dwysedd poblogaeth yn erbyn eu cefnogwyr yn y cefn gwlad.

    Gobeithio bod eu llwyddiant wrth gadw TÅ·'r Arglwyddi yn annemocrataidd yn gysur i'r Ceidwadwyr mainc cefn fydd yn colli eu swyddi yn 2015.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.