Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Henry Jones-Davies yn taranu

Vaughan Roderick | 10:24, Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007

Henry Jones-Davies yn taranu

Yn y dyddiau cyfrifiadurol yma mae gan bob blogiwr fodd i lunio ei bulbud ei hun. Fe wnaeth Henry Jones-Davies hynny yn y ffordd hen ffasiwn trwy fentro cyhoeddi cylchgrawn. Dwi ddim yn siŵr fy mod i'n derbyn honiad Henry bod "Cambria" yn "anwleidyddol" ond does 'na ddim dadlau ei fod yn llwyddiant gan werthi deng mil o gopïau i ddarllenwyr byd-eang. Ta beth mae Henry yn rhoi'r gorau i olygu'r cylchgrawn ac yn ei golofn olygyddol mae'n dweud ei ddweud heb flewyn ar ei dafod. Dwi ddim am hyd yn oed geisio cyfieithu ei bregeth. Dyma flas ohoni;

"The rank corruption of the dependency culture which pervades Welsh life with its bread-and-circuses, its intolerable economic inactivity, its almost total dearth of new ideas, leadership, or dynamism, its stale and talentless cabal of post-devolution politicians, its stagnant and sterile political culture, its visceral loathing of anything proud and patriotic, would bode ill for any society. It bodes worse for a struggling, economically depressed ‘province’ which is told it is doing ‘so very well’ by the present administration."

Mae 'na fwy...llawer mwy. Hyd yn oed os ydych chi'n anghytuno mae'n bleser i ddarllen polemic sydd wedi ei sgwennu mor dda.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:34 ar 28 Ebrill 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mae Henry Jones-Davies wedi taro'r hoelan ar ein phen yn ei linell gyntaf or polemic gwych a gwir yma.
    'Dependency culture' ydy Cymru heddiw hefo's ddwy Blaid fwyaf yn cystadlu pwyl ellith redeg yn bywydau ni ora (neu mewn fordd arall sychu'n tinnau ni lanaf!!). Gwastraffu arian mae llywodraeth diwethaf wedi neud ar esiampl waethaf oedd y £29 miliwn i BAWB gael presgripsiwn am ddim...pam, dwi a cannoedd o filoedd o fobol eraill yn ddigon parod i dalu am ein meddyginaeth ein hunain ac mi fuasai £29 miliwn yma yn well yn cael ei wario ar fobol sydd ei wir angen.

  • 2. Am 19:59 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhobert ap Steffan:

    Rwyn cytuno cant y cant. Mae Blaid Lafur wedi magu cymdeithasau sy'n dibynnu, neu yn hytrach meddwl maent yn dibynnu, ar ryw fath o gymorth neu ewyllys da gan y Brawd Mawr - sef "Godfathers" Llafur y Cymoedd a'r stadau mawr yn y De a Gogledd Dwyrain.
    Fel canlyniad, Cymru yn dioddef o ddifaterwch rhonc.Fe gawn ni Cymru llawer well wrth cael gwared y Blaid Lafur unwaith ac am byth - mae nhw'n wedi cael 100 mlynedd fel y ceffyl blaen i brofi eu hunan a beth yw'r canlyniad ? - ni ydy'r cenedl tlotaf ym Mhrydain; yr Albania o Gorllewin Ewrop.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.