Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lincs

Vaughan Roderick | 17:37, Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2007

Mae wedi bod yn bwydo'i fol ac yn helpu coffrau ei blaid yn Aber. Dwi wedi bod yn ceisio spotio yn y casgliad o luniau o gynhadledd flynyddol Cymuned heb unrhyw lwc ond beth ar y ddaear mae Chris Schoen yn gwisgo yn y llun ?
"Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier." Geiriau Serch hynny 'dwi am ei gynnwys fel enghraifft dda o ba mor anodd yw hi i ddod o hyd i gartref y dyddiau yma.

Ar yr ochr Saenseg ar flog mae'r Ceidwadwr Jonathan Morgan yn galw am bwerau llawn i'r cynulliad ac mae gan stori ddifyr am fethiant y Ceidwadwyr i ddanfon cynrychiolydd i un o gyfarfodydd CBI Cymru.

Gyda llaw, byswn yn ddiolchgar i glywed am unrhyw un sy'n bwriadu blogio ar noson y cyfri. Fe fyddai i'n blogio o stiwdio S4C a bydd disgwyl i Richard Wyn Jones gyfrannu, er nad yw'n gwybod hynny eto! Paid poeni Richard - y cyfan rwyt ti'n gorfod ei wneud yw sibrwd yn fy nghust.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:55 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion Gwilym:

    Dwi ddim yn bwriadu blogio ar noson yr etholiad (ella nai er mwyn rhoi sylw neu ddau) ond yn edrych ymlaen i ddarllen blogiau pobl fydd yn gwneud. A fydd y Ö÷²¥´óÐã yn darparu rhaglenni ar-lein? Os byddywch, ym mha iaith? Rwy'n fyfyriwr yn Lloegr ac yn awyddus iawn i ddilyn digwyddiadau'r noson :)

  • 2. Am 19:41 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dwy ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn yna, Sion. Fe wnai ofyn yn y gwaith fory a phostio ateb yn fan hyn.

  • 3. Am 19:44 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Nes i ddim gweld ffoto ohonof chwaith. A wel.

  • 4. Am 22:57 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd Aran:

    Chris yn gwisgo'r ty mwyaf mae o'n medru fforddio, wrth gwrs...;-)

  • 5. Am 11:40 ar 18 Ebrill 2007, ysgrifennodd Richard yn Fagerstrand:

    Dwi'n edrych at y noson Vaughan. Dylai fod yn ddifyr tu hwnt!

    Gyda llaw, llongyfarchiadau ar y blog - gobeithio y bydd yn parhau wedi'r etholiad?! A gyda llaw, be ddaeth o'r pol arall 'na gan Beaufort yr oeddet ti'n ei addo? (Gweler y rhifyn cyfredol o Barn i weld pa fath o rwystredigaeth mae sylwadau o'r fath yn eu creu!)

  • 6. Am 12:30 ar 18 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Sion, Yr ateb i dy gwestiwn yw y bydd y rhaglenni canlyniadau i gyd ar gael yn fyw arlein.

    Dicw, Dwy'n meddwl y dylet ti wylio allan am arolwg dros y Sul.

  • 7. Am 13:41 ar 18 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion Gwilym:

    Diolch yn fawr, Vaughan. Dwi'n edrych ymlaen yn barod!

  • 8. Am 16:20 ar 18 Ebrill 2007, ysgrifennodd Chanticleer:

    Dwi yn neuadd y ddinas, Caerdydd, ar noson yr etholiad ar gyfer rhwydwaith GCap Media, ond os oes munud/awr sbar dwi'n siwr na'i ychwanegu cwpl o eiriau anniddorol i'r hen flog!

  • 9. Am 17:47 ar 18 Ebrill 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Bydd y pôl yn ymddangos yn y Wales on Sunday efallai?

    Yw'r Ö÷²¥´óÐã yn comisiynu pôl eleni? Sylwi fod y Ö÷²¥´óÐã yn yr Alban wedi comisiynu sawl pôl yn ystod y misoedd diwethaf

  • 10. Am 18:34 ar 18 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Hedd, Doeddwn i ddim yn ceisio creu rhiw ddirgelwch mawr. Yr hyn dwy'n deall am bolau (a gallai hyn newid) yw ein bod yn disgwyl canlyniadau arolwg gan gwmni newydd yn un o bapurau Caerdydd y penwythnos yma. Dyw hi ddim yn eglur pa gwestiynnau yn union sydd wedi eu gofyn. Mae disgwyl canlyniadau Beaufort y penwythnos canlynol. Dwy ddim yn siwr pryd y cawn ni "recall" ITV/NOP sy'n fy atgoffa bod gen i fwy i ddweud am yr arolwg yna!

  • 11. Am 20:04 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Chris Schoen:

    Sut mae Vaughan ers talwm? Yr wyf yn gwisgo ty chwarae fel gimic i dynnu sylw at ymgyrch Cymuned - Cartrefi.com.

  • 12. Am 22:53 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dwy'n iawn Chris, a fi sy'n llwyr ar fai ein bod heb gysylltu.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.