Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae rhywbeth yn drewi yn fan hyn

Vaughan Roderick | 16:50, Dydd Gwener, 13 Ebrill 2007

Wythnos diwethaf cyhoeddwyd canlyniadau arolwg barn NOP/ITV Cymru. Ar sail y wybodaeth a ryddhawyd gan ITV fe wnaethon ni a chyfryngau eraill ddarogan bod Plaid Cymru wedi gostwng i'r trydydd safle y tu ol i'r Ceidwadwyr. Roedd yr honiad yna'n seiliedig ar ganrannau pleidleisio a gyhoeddwyd gan ITV a darogan yr arbenigwr gwleidyddol a gyflogir gan ITV, Dr Denis Balsom.

Fe wnes i gyfeirio at y canlyniadau ar "Wales Today" a "Newyddion". Doeddwn i ddim wedi gweld yr ystadegau crai ond roeddwn yn fodlon ymddiried yn arbenigedd newyddiadurwyr ITV a phrofiad hir Dr Balsom.

Dydd Llun ymddangosodd yr ymddiheuriad rhyfeddyn y Western Mail

"In our analysis of an NOP opinion poll for ITV Wales on voting intention at the National Assembly election, we incorrectly suggested that a predicted 3.5% swing from Labour to the Conservatives would result in a Conservative gain from Labour at Carmarthen West and Pembrokeshire South. In fact, the seat would be won by Plaid Cymru"

Hwn oedd yr awgrym cyntaf ces i fod yna bethau rhyfedd yn mynd ymlaen.

Bellach dwi wedi llwyddo i weld rhai o ystaegau crai yr arolwg (peidiwch gofyn sut).

Wrth drafod eu pleidleisiau etholaethol (y bleidlais gyntaf) fe ddywedodd 182 o bobol wrth NOP eu bod yn bwriadu pleidlesio i Blaid Cymru. Fe ddywedodd 180 eu bod yn bwriadu pleidleisio i'r Ceidwadwyr. Hynny yw roedd mwy o bobol yn bwriadu pleidleisio i Blaid Cymru nac i'r Ceidwadwyr.

Dim ond trwy gyfyngu'r sampl i'r rheiny sy'n gwbwl sicr o bleidleiso y gellir cael canlyniad sy'n gosod y Ceidwadwyr yn yr ail safle.

Dyw gwneud hynny ddim yn anghywir nac, yn wir, yn anarferol. Ond lle mae yna ddau gasgliad o ystadegau sy'n gwthddweud ei gilydd ynglyn â phwnc mor allweddol â phwy sydd yn ail, oni ddylid cyhoeddi'r ddau? Yn sicr dyna y byddwn i wedi ei wneud. Dwi'n meddwl bod gan Blaid Cymru le i gredu eu bod wedi cael cam.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:08 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion:

    Mae hyn yn sicr yn ddadansoddiad dadleuol o'r pol piniwn. Galle'r ddau blaid honni eu bod yn ail safle, neu 3 plaid yn gydradd gyntaf yn ol y pol (o gofio amrywiaeth o 3% o ran canran y bleidlais).


    Ar bwynt arall - dwi'n amau Vaughan fod pobl yn amheus o adael neges ar dy flog achos eu bod yn amau y bydd y Ö÷²¥´óÐã yn cael cip i weld pwy yw'r enwau tu ol y ffugenwau ac yn gallu defnyddio hynny yn eu herbyn petai'r Ö÷²¥´óÐã am wneud hynny. Ydi rhywun yn gallu gadael ffugenw ac a wyt ti'n checio'r cyfeiriadau ebost?

    Nid amau, jyst holi?

  • 2. Am 21:16 ar 13 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion:

    Mae hyn yn sicr yn newyddion ac dadleuol iawn ac yn adlewyrchu'n wael ar ITV. Mewn gwirionedd, fel dywed dy fwci (un 'f' nid dwy sylwer), mae'r 3 blaid mor agos fel eu bod i gyd o ran darogan yn gallu honni fod yn gydradd gyntaf.


    Ar bwnc gwahanol. Dwi'n amau Vaughan fod pobl yn gyndyn i adael neges ar dy flog. Efallai fod hynny'n rhannol achos nad ydynt yn siwr a cánt roi ffugenw ac yn fwy penodol a yw'r Ö÷²¥´óÐã yn checio cyfeiriadau ebyst pobl ac yna á'r gallu i'w ddefnyddio. Mewn gwlad mor fach á Chymru, mae hyn yn gonsyrn ... yn enwedig os oes canran uchel o dy ddarllenwyr yn gweithio i'r sector gyhoeddus.

    Nid amau, jyst holi.

  • 3. Am 00:12 ar 14 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Sion,
    Mae dy ail bwynt yn gwbwl ddilys ond dwy rhwng ddau fyd yn fan hyn. Am yr union reswm wyt ti'n crybwyll dwy wedi mynnu mai dim ond fi a Ruth Thomas, head honcho Cymru'r Byd sy'n cael modereiddio sylwadau a thrwy hynny gweld y cyfeiriadau.
    Y broblem yw bod hynny yn golygu bod na adegau lle mae'n oriau cyn i sylwadau ymddangos. Dwy wedi ail-bostio ambell i stori ar faes-e os ydy Ruth a finne i ffwrdd er mwyn i bobol cael ymateb. Mae pobol Maes-e yn gofyn (yn gwbwl resymol) pam y dylen nhw foderieiddio ar ran y Ö÷²¥´óÐã.
    Yr ateb wrth gwrs yw caniatau ymatebion di-enw (wedi eu modereiddio). Dwy'n brwydro dros hynny.

  • 4. Am 00:19 ar 14 Ebrill 2007, ysgrifennodd mickey mouse:

    Dim angen poeni am gael eich adnabod. Jyst rhowch cyfeiriad ffug yn yr e-bost... fel mickeymouse@hotmail.com

  • 5. Am 01:05 ar 14 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Ond Mickey, byswn i fyth yn cwympo am rhywbeth fel 'na!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.