Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pan ddaw yfory....

Vaughan Roderick | 16:15, Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007

"Diwrnod Ceredigion" fydd yfory ar y blog. Fe fyddaf yn trafod pob peth Cardi-aidd ac yn bwrw golwg ar un o ornestau mwyaf diddorol a lliwgar etholiadau 2007.
Fe fydd Karl Williams yn agor Siop Rithiwr Jack Brown ac yn defnyddio llygad bwci i broffwydo'r canlyniad. Bydd Owain Clarke yn rhannu ei argraffiadau o'r ymgyrch a cewch ddysgu llwyth o ffeithiau difyr, ond cwbwl amherthnasol, ynglŷn â sir y Cardis.
Hynny... a mwy, yfory.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:20 ar 20 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Wedi clywed sawl stori ddifyr iawn am yr ymgyrchu yng Ngheredigion (a'r diffyg ymgyrchu gan Lafuriaid a Thoriaid!) Wyt ti am ganolbwyntio ar etholaethau eraill hefyd yn ystod yr ymgyrch? Fydd gennyt sylwadau ar sedd newydd Arfon maes o law?

  • 2. Am 19:05 ar 20 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Bobi, Dwy ddim yn siwr eto. Cawn weld sut mae fory'n mynd.

  • 3. Am 23:48 ar 20 Ebrill 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Mae pethe yn dechre twymo lawr 'ma yn etholaeth Llanelli. Plaid Cymru wedi dosbarthu llwyth o daflenni, a Llafur yn ceisio ymateb. Llafur oedd yn ennill y frwydr arwyddion ym Mhontyberem, ond ers cwpwl o ddyddie mae rhai Helen Mary Jones wedi codi dros y lle! Oes bwriad dod lawr i etholaeth Llanelli hefyd?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.