Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y rowndiau olaf

Vaughan Roderick | 16:09, Dydd Sul, 29 Ebrill 2007

Tridiau i fynd. Beth fydd straeon mawr dyddiau ola’ yr ymgyrch, tybed? Yn sgil yr arolygon barn diweddaraf dwi'n disgwyl i'r pleidiau eraill ganolbwyntio eu hymosodiadau ar Blaid Cymru ac yn fwyaf enwedig ar ei chynlluniau gwariant.

Mae'r tair plaid arall i gyd yn argyhoeddedig bod Plaid heb wneud ei symiau ac na fyddai gan lywodraeth Plaid Cymru ddigon o arian i ariannu ei haddewidion. Mae Llafur eisoes wedi rhyddhau cyfres o ddatganiadau yn honni mai'r unig ffordd y gallai Plaid gadw ei haddewidion fyddai trwy rewi cyflogau yn y sector gyhoeddus. Dwi'n disgwyl ymosodiad tebyg gan y Torïaid yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae'n amlwg bod Plaid Cymru hefyd yn rhagweld ymosodiadau o'r fath. Yfory fe fydd y Blaid yn amddiffyn ei chynlluniau ac yn esbonio'r fethodoleg y tu ôl i'w ffigyrau. Dwi'n meddwl y gallai hon fod yn ffrae eithaf chwerw ond fe allai hefyd droi yn ddadl gymhleth ac annealladwy am ystadegau. Os felly gwnaiff hi fawr o wahaniaeth i'r frwydr etholiadol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:25 ar 29 Ebrill 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Vaughan - Gobeithio'n fawr y gelli egluro'r ffeithiau yma i ni!! Mae'n andros o job dadansoddi pa un o'r pleidiau sydd yn deud y gwir unryw amser, on amser etholiad mae hi'n amhosib...does ddim syndod fod yna ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac etholaethau. Hefyd be ydy'r diweddaraf ynglyn a'r ffrae yng Ngorllewin Clwyd?

  • 2. Am 18:53 ar 29 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Fe wnai'r gorau gallai Arfon er fy mod yn ei chael hi'n annodd i ddeall fy nghyfri banc fy hun weithiau! Dwy ddim wedi clywed dim byd mwy am Orllewin Clwyd heddiw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.