Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cathod mewn sach

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Sul, 6 Mai 2007


Mae Elinor Burnham yn dweud hyn "Mae Peter Black yn bod yn anghyfrifol fedrai ddweud wrthoch chi ei fod e mewn lleiafrif". Pechod Peter wrth gwrs yw cwestiynu arweinyddiaeth Mike German.

Mae Peter Black yn ddiedifar ar ei flog mae'n dweud hyn "I could always have taken the other option of secretly and anonymously briefing the media so as to undermine Mike's position. After all that is how the MPs got rid of Charles Kennedy. That, though, is not my style." Mae honna'n brifo!

Does neb o'r cyfryngau yn gallu cysylltu â Mike ac mae Kirsty yn cadw ei phen i lawr ond fe fydd Lembit am ddweud ei ddweud ar y radio bore fory.

Yn y cyfamser mae arweinydd Cyngor Caerdydd Rodney Berman yn grac bod arweinydd Cyngor Penybont Cheryl Green wedi honni bod arweinwyr cyngor y blaid i gyd yn erbyn clymblaid.

O ba fodd y cwymp y cedyrn?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:06 ar 6 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Dwi'n falch iawn o weld y cwympo allan o fewn camp y RhDem os na ellan nhw gyd weld hefoi gilydd faint o siawns sydd ganddyn nhw o weithio mewn clymblaid hefo Llafur. Hefyd annemocrataidd fuasai rhoi pwer iddynt hefo dim 'mandate.' Mae y clymblaid 'Rainbow' yn gneud dipyn mwy o synnwyr, beth bynnag i rai fel fi lle mae polisiau economaidd y Ceidwadwyr yn ddigon derbynniol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.