Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Gwener, 25 Mai 2007

Ateb Ddoe; Y pedwar oedd Tomos Charles, Harold Wilson, Pixley ka Isaka Seme (sylfaenydd yr ANC) a Sian Lloyd. Cafodd Dewi tri yn gywir. Roedd Helen Smith yn gywir am y cysylltiad. Roedd y pedwar yn fyfyrwyr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Pwy sy'n gallu ateb hwn?

Beth sy'n cysylltu hoff ddywediad Jim Callaghan o'r Mabinogi, gwleidydd uchel ei gloch o Went a'r gŵr o Plonsk sy'n cael ei goffau yn enw prif faes awyr ei wlad?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:54 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Bid Ben Bid Bont,David Ben Gurion yn hawdd............gweidydd uchel ei gloch o Went ? - Neil Kinnock...yn byw ym Mhontllanfraith ??....dodgy rwy'n gwybod.........

  • 2. Am 12:17 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd gwylan:

    Does gen i ddim syniad beth yw'r ateb ond......

    Mae cyd-weithiwr i mi newydd glywed y bydd Lembo a'i wedjen yn Aber 'fory ar gyfer cynhadledd y Lib Dims. Bydd hi'n arwyddo copiau o'i chryno ddisg yn y bandstand am 2.00. Rhaid bod nhw'n despret.

  • 3. Am 12:20 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd Goodbye Kirsty:

    A fo ben bid bont, benjamin hall - sef big ben, a david ben-gurion.

  • 4. Am 12:30 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd Gwyn J:

    Ben yw'r ateb.
    'bid ben bont' oedd camddyfyniad Jim Callaghan

    Ben-Gurion oedd yn o feibion Plonsk

    Benjamin Hall oedd yn gyfrifol am y gloch: Big Ben.

  • 5. Am 12:59 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    A bod ben bid bont, Chopin a......Huw Lewis?

    Dim clem am y cysylltiad!

  • 6. Am 13:04 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    "a FO ben bid bont" hyd yn oed!

  • 7. Am 13:58 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd Heledd:

    Ai'r ateb yw "Ben"?

    Hoff ddywediad Callaghan oedd "A fo BEN bid bont"

    Mae Maes Awyr Tel Aviv yn Israel wedi ei enwi ar ol Ben-Guiron, Prif Weinidog cyntaf Israel

    Y gwleidydd o Went yw Benjamin Hall III yr enwyd "Big Ben" ar ei ol.

  • 8. Am 17:35 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Benjamin Hall wrth gwrs...minnau wedi cael fy nghodi yn stryd o enw Hall's road yn Nhrecelyn a chael yr ateb yn anghywir :)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.