Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Enfys y bore, aml gawodau

Vaughan Roderick | 09:55, Dydd Mawrth, 22 Mai 2007

Mae 'na ambell o gawod o gwmpas o hyd i ddilynwyr yr enfys. Os nad wyf yn camddarllen pethau'n llwyr dw i'n synhwyro bod Plaid Cymru ar fin dod a'r trafodaethau â Llafur i ben gan ganolbwyntio ar siarad â'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dw i'n weddol sicr hefyd y bydd y tair plaid yn cyrraedd cytundeb ac y bydd cyngor cenedlaethol Plaid Cymru yn cymeradwyo'r cynllun.

Ond, a dyma'r ond fawr, dwi'n amau y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol simsanu. Dw i ddim yn rhagweld y bydd Mike German yn troi nôl at Lafur ond dw i yn meddwl bod hi'n bosib (posib sylwer, nid tebyg) y bydd cynhadledd y blaid Ddydd Sadwrn yn penderfynu cefnu ar glymbleidiau a chytundebau'n llwyr gan orchymyn i'w haelodau fod yn wrthblaid i ba bynnag llywodraeth sy'n cael ei ffurfio.

Beth fyddai canlyniad hynny? Mae'r ateb i'r cwestiwn yna yn dibynnu'n llwyr ar un person sef Trish Law, aelod annibynnol Blaenau Gwent.

O dan y fath amgylchiadau, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymatal, dw i'n cymryd y byddai Llafur yn enwebu Rhodri Morgan fel prif Weinidog Ddydd Mercher nesaf tra byddai Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn enwebu Ieuan Wyn Jones.

Mae'r fathemateg yn syml. Fe fyddai Ieuan yn ennill pe bai Trish yn ei gefnogi neu yn ymatal. Os oedd Rhodri yn gallu ei darbwyllo i'w gefnogi fe, fe fyddai'r niferoedd yn gyfartal ac fe fyddai'r dyfroedd cyfansoddiadol yn rhai dyfnion.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:14 ar 22 Mai 2007, ysgrifennodd mark lewis:

    what does the last w 2 lines mean my self and my welsh speaking coleagues cant fathom to what you are trying to say

    sorry Vaughan

  • 2. Am 11:36 ar 22 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Vaughan, mae mwy o 'dwists a tyrns' yn y gem hwn na gem o griced...

    Ond fel mae'n nhw'n dweud..'Never underestimate the power of a woman..'.

    Bydd ei ffon hi yn dan golau..

  • 3. Am 11:45 ar 22 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Oh, Mr Roderick, rwyt ti wedi rhoi'r ateb heb fildio y tensiwn i fyny, a'r goleuau yn mynd lawr, a gofyn os odi'n ni'n mofyn defnyddio 'lyifflyin' trwy 'ffonio ffrind'..

    'Come along, now' - efallai fydd drysau arall yn agor i ti ochr draw i fod yn Olygydd Materion Cymreig, neu fel Ms Powys, yn jyglo job 'Mastermind' gyda ei 'day job'...

    Hmmm..Wn i beth oedd tad Mr Opik yn gwneud am fywoliaeth..?

  • 4. Am 11:59 ar 22 Mai 2007, ysgrifennodd Daran:

    Mae'r maths ma yn llawn diddordeb. Dan y scenario yma, bydd rhaid i bawb pwsho'r botwm cywir - a mae na 13 aelod newydd sydd byth wedi gwasgu unrhyw botwm yn y siambr newydd eto...

    Falle bydde di nol ar News 24 eto yn delio a'r hen fotymau ma!

  • 5. Am 13:43 ar 22 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Mark, it means "If Rhodri can persuade her (Trish) to support him then the maths are equal and we are in constitutional deep waters"
    Since it was written Trish has indicated that she intends to support the "rainbow"

  • 6. Am 14:25 ar 22 Mai 2007, ysgrifennodd dewi:

    Beth ddigwyddodd i dy gwis Vaughan ??? :)

  • 7. Am 14:36 ar 22 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    Osna ohebiad yn unrhywle o Trish yn cefnogi'r enfys, dwi methu ffendio dim ar ddarbn newyddion y Ö÷²¥´óÐã

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.