Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Enfys yw fy mywyd

Vaughan Roderick | 20:16, Dydd Mawrth, 22 Mai 2007

Toc wedi wyth heno, wedi pump awr o drafod, cyhoeddodd aelodau cynulliad Plaid Cymru eu penderfynniad. Yr "enfys" amdani. Pam trafod mor hir? Mae'n sicr cawn wybod rhywbryd ond peidied neb a meddwl bod hwn yn benderfynniad hawdd.

Ar y naill law mae'r "enfys" yn cynnig cyfle i brofi mai nid grwp gwthio na phlaid ymylol yw Plaid Cymru. Mae'n gyfle i wireddu polisiau sy'n agos iawn at galonau'r blaid mewn meysydd pwysig fel addysg, yr iaith a chynllunio. Os ydy'r llywodraeth yn un effeithiol a phoblogaidd gallai Plaid Cymru sefydlu ei hun fel un o "ddwy blaid fawr Cymru".

Ar y llaw arall mae'n golygu cyfaddef nad yw yr amcanion sy'n cael eu rhestri ar gerdyn aelodaeth y blaid yn adlewyrchiad teg o'r hyn yw hi. Mae'n golygu cyfaddef nad yw hunan-lywodraeth/annibyniaeth yn amcan realistig yn y tymor byr ac hefyd nad yw y blaid mor sosialaidd ac mae rhai o'i haelodau yn credu. Mae ei pholisiau yn rhai asgell chwith ond nid sosialeth yw pwrpas ei bodolaeth.

Pan oedd yn rhaid iddi ddewis rhwng y "prosiect cenedlaethol" a chadw ei sosialaeth yn bur doedd ond un dewis mewn gwirionedd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:19 ar 22 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    'Trish Law for President' !

  • 2. Am 08:45 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd iestyn ap dafydd:

    Tybed a ydy'r Blaid yn siarad gyda Trish Law - mae cyfraniad gwirioneddol gyda hi i'w wneud o ran adnewyddiad yn yr ardaloedd ol-ddiwydianol, a deall problemau cymdeithasol yr ardaloedd hyn. Prif broblem yr 'Enfys' yw nad oes cyrychiolaeth o'r ardaloedd hyn gan y pleidiau o ran seddi unigol. A fysai Trish yn barod i gydweithio gyda'r toriaid?...

  • 3. Am 09:26 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys Thomas:

    rwy'n aghytuno hefo'r sylwad olaf. mae'n amlwg mae'r cwestiwn cenedlaethol o ran sicrhau senedd llawn i gymru oedd yn cadw coch - gwyrdd yn y gem. mae pawb yn gwybod sdim modd ennill refferendwm heb cefnogaeth y Blaid Lafur. Mae'r cytundeb enfys yn meddwl bod y frwydr dros ehangu pwerau cyfansoddiadol cymru wedi ei neulltio i'r ochr.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.