Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gareth Thomas- un cwestiwn bach

Vaughan Roderick | 12:11, Dydd Mawrth, 1 Mai 2007

Fe fydd cyn AS Llafur Gorllewin Clwyd Gareth Thomas yn datgan ei gefnogaeth i ymgeisyddiaeth Dafydd Wigley'r prynhawn yma ac yn cymell pobol y gogledd i ddefnyddio eu hail bleidlais dros Blaid Cymru. Mae Gareth yn disgwyl cael ei ddiarddel gan Lafur o ganlyniad. Ond beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn mae fe'n ei ddweud a'r ymgeiswyr hynny sy'n arddel o slogan "Vote Labour-Get Wigley"?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:32 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Gareth Thomas:

    Dwi wedi bwriadu pleidleisio dros Plaid ar gyfer y rhestr ers dipyn. Mae Wigley yn wleidydd o ansawdd a hoffwn gweld o yn y cynulliad yn enwedig gan ystyried y grymmoedd newydd. Dwi'n bwriadu pleidleisio dros Alun Pugh ar gyfer y sedd. Er fy mod yn dipyn o cenedlaetholwr gyda c fach dwi ddim yn cefnogi polisi Plaid ar annibyniaeth. Yn hyn o beth efallai bod fy safpwynt yn deyg i lawer yng Nhymru. Beth sydd yn bod efo clymblaid rhwng Llafur a Plaid?

  • 2. Am 12:39 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Mae'r ateb i hynny'n weddol syml Vaughan.

    Mae Eaglestone ac ati yn argymell i chi roi eich dwy bleidlais i Lafur, ac yna trwy rhyw wyrth gael DW yn aelod cynulliad.

    Ymgais desperate gan blaid sydd ar chwal yn lleol o leiaf.

  • 3. Am 12:47 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Diolch am ymhelaethu, Gareth. Fel dwedodd Dr. Roger Scully y broblem da clymblaid Llafur/Plaid yw nid gwahaniaethau polisi ond casineb rhai o aelodau'r ddwy blaid at eu gilydd. Mae'n debyg bod hynny yn arbennig o wir yn y cymoedd.

  • 4. Am 12:51 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Mae o'n wir ymhell tu hwnt i'r cymoedd mae gen i ofn.

  • 5. Am 12:56 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Ceri Evans:

    Gareth - wna beth wyt ti eisiau, on rwyt hefyd wedi penderfynu i difrodi ymgyrch Llafur gydag amser dy datganiad di.

  • 6. Am 00:24 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Ceri, wrth gwrs ei fod. Mae Gareth yn amlwg am weld eraill yn dilyn ei esiampl ac yn rhoi eu ail bleidlais i Wigley.

    Pam anghytuno gyda Annibyniaeth oddi fewn i'r UE Gareth? Be hoffe ti weld? Sustem ffederal ym Mhrydain, gyda Seneddau cyfartal yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr?

  • 7. Am 11:37 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd llyr:

    " Ond beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn mae fe'n ei ddweud a'r ymgeiswyr hynny sy'n arddel o slogan "Vote Labour-Get Wigley"? "

    Falle galle pleidlais Lafur ar y papur cyntaf fod o help i Dafydd Wigley yn Arfon a Mon ond nid felly yn Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Dyffryn Clwyd a Delyn. Ail sedd y Ceidwadwyr mae Dafydd Wigley angen ei chipio, ac mae angen i'r Ceidwadwyr ennill Gorllewin Clwyd + Delyn neu Dyffryn Clwyd neu Aberconwy i hyn ddigwydd.

  • 8. Am 12:05 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd llyr:

    A dweud y gwir dim ond yn Arfon, De Clwyd a Wrecsam mae 'Vote Labour-Get Wigley' yn gweithio. 'Vote Tory-Get Wigley' yw hi ym mhobman arall neu 'Vote Independent-Get Wigley' o bosib ym Mon. Sori i fod yn anoracaidd gyda llaw - newydd baratoi 18 scenario posib ar gyfer canlyniad rhestr rhanbarth y Gogledd...

  • 9. Am 20:59 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Diolch iti am dy ddewrder a dy esboniad Gareth. Ond mae cael y Bonwr WIgley mewn i'r Cynulliad yn edrych yn eithaf annhebygol i mi, yn enwedig o edych ar y darogan diweddar ar y blog hyn. Dwi ddim yn deall y sustem restr, oes rhywun allan acw fyddai'n medru fy rhoi ar ben ffordd o ran y methodoleg (o safbwynt y pleidleisiau rhestr, ac sy'n mae'n bosibl ethol rhywun er enghraifft, sy'n 2il ar y rhestr) os gwelwch yn dda? Diolch, a maddeuwch fy nhwpdra!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.