Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhywle …draw dros yr enfys…

Vaughan Roderick | 09:29, Dydd Iau, 10 Mai 2007

Yn ddigon rhesymol mae’r holl sylw yn y senedd ar hyn o bryd ar ymdrechion Rhodri Morgan i ffurfio llywodraeth ar sail clymblaid neu gytundeb da’r Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru. Does fawr o son am yr opsiwn arall – y llywodraeth ddi-Lafur a adwaenir fel yr “enfys”.

Dyw hynny ddim yn golygu nad yw’r opsiwn honno yn bosibiliad go iawn. Mae ffynonellau o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol yn awgrymu bod gan Rhodri Morgan tan y penwythnos yma i’w hargyhoeddi mai cytundeb rhwng y ddwy blaid yw’r ffordd orau ymlaen. Yn y cyfamser maent yn pwysleisio eu bod yn parhau i drafod â Phlaid Cymru hefyd.

Mae ffynonellau o fewn Plaid Cymru yn cadarnhau hynny. Mae 'na awgrym y bod y blaid yn fodlon aros tan ddydd Mercher nesaf i weld sut hwyl mae Rhodri’n ei gael. Os nad yw Llafur yn agos at gyrraedd cytundeb erbyn hynny fe fydd trafodaethau go iawn yn cychwyn rhwng y gwrthbleidiau.

Fy nealltwriaeth i yw bod Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ystyried clymblaid ffurfiol rhwng y ddwy blaid i ffurfio llywodraeth. Fe fyddai’r llywodraeth honno yn dibynnu ar gytundeb gyda’r Ceidwadwyr i sicrhâu mwyafrif ond heb aelodau Ceidwadol wrth fwrdd y cabinet. A fyddai hynny’n ddigon i’r Torïaid? Mae’n anodd gwybod.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:51 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd Daran:

    Wedi clywed yr un stori, gan Geidwadwr oedd yn chwerthin wrth adrodd hi.

    Gan bod y Cynulliad wedi colli'r record am aelodau benywaidd, ydy nhw nawr am sefydlu un arall - sef llywodraeth gyda'r canran isa yn y byd o aelodau'r senedd yn perthyn iddi? Jest dros 1 ym mhob 3 os dim ond y Lib Dems a Phlaid bydd yn rhan ohoni.

    Ydy hynny'n ddigon o liwiau i gownto fel enfys?

  • 2. Am 11:25 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd Helen Smith:

    Digon i'r Torïaid? Mae gen i amheuaeth gref na fyddai hynny'n ddigon i Blaid Cymru, a allai deimlo rheidrwydd i lastwreiddio ei pholisïau er mwyn creu undod â phlaid arall sydd mor wrthun iddi yn y bôn. Dwy ddim yn credu y byddai'r fath lywodraeth 'enfys' yn para'n hir cyn dangos rhaniadau sylfaenol.

    Fy marn bersonol i yw y dylai Plaid Cymru a'r Blaid Lafur geisio dod i gytundeb i greu llywodraeth - wedi'r cwbl, mae ganddynt fwy o dir cyffredin o lawer nag a fu erioed rhwng Plaid Cymru a'r Torïaid.

    Y flaenoriaeth yw cael llywodraeth weddol unedig nad yw'n debygol o gwympo cyn diwedd ei thymor naturiol - y peth olaf sydd ei eisiau yw ail etholiad - wedi'r cwbl, llai na hanner y pleidleiswyr a drafferthodd i fwrw eu pleidlais ar 3 Mai, a byddai'r ffigur hwn lawer iawn is pe bai ail etholiad - mor isel, ofnaf, fel na fyddai mewn gwirionedd yn rhoi mandad i neb, beth bynnag fyddai'r canlyniad.

iD

Llywio drwy’r

© 2014 Nid yw'r yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.