Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tony y Tacsis a fi

Vaughan Roderick | 11:13, Dydd Gwener, 11 Mai 2007

Roeddwn yn ceisio meddwl ddoe am rywbeth y gallwn ychwanegu at y môr o eiriau a ddarlledwyd ac a ysgrifennwyd ynglŷn â phenderfyniad Tony Blair i gamu o'r llwyfan. Dim ond y bore 'ma y cofiais i hanesyn am un o ddyddiau gwaethaf fy ngyrfa fel darlledwr. I ddweud y gwir dw i wedi bod yn ceisio anghofio am y digwyddiad!

Yn ystod etholiad 2001 fe drefnwyd i mi wneud rhaglen a Tony Blair ar gyfer Radio Wales yn fyw o westy yng Nghanol Caerdydd. Y syniad oedd gwahodd gwrandawyr i ffonio mewn a'u cwestiynau i'r Prif Weinidog. Fe aeth y rhaglen yn iawn ond cefais i (a Tony dw i'n meddwl) ein synnu gan gyn lleied o alwadau a dderbyniwyd.

Dim ond ar ôl y rhaglen y gwnes i ddarganfod y gwir echrydus. Doedd bron neb wedi clywed gair yr oedd gan y Prif Weinidog i'w ddweud oherwydd bod swyddfa tacsis cyfagos wedi ymyrryd a'r signal radio! Fe gadwodd cynhyrchydd y rhaglen yn dawel am y broblem gan adael i Tony a finnau balu 'mlaen. Gwnâ i ddim enwi'r cynhyrchydd dim ond dweud bod profiad fel yna yn paratoi dyn ar gyfer siomedigaethau mawr bywyd - methu ac ennill isetholiad seneddol mewn cadarnle Llafur er enghraifft.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:49 ar 11 Mai 2007, ysgrifennodd Clebryn:

    Dim Mr Viagra wyt tin son amdano ife Vaughan?

    Mae gen i rhyw gof ei fod yn gyn gynhyrchydd yn uned wleidyddol y Ö÷²¥´óÐã cyn troi i fod yn lobiydd ar gyfer y diwydiant cyffuriau.. cyn cael ei gywilyddio yn y dull mwyaf anhygoel ym Mlaenau Gwent!

  • 2. Am 23:57 ar 11 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    'I 'ad that Vaughan Roderick in the back of 'me cab once...very clever man..'!

    Plis plis plis wneu di ddarllen stori gan Jon Snow [Channel 4 News] yn ei lyfr ardderchog 'Shooting History' am y tro roedd e'n 'stuck' mewn tacsi gyda nifer o wleidyddion blaenorol o Ogledd Iwerddon yr holl ffordd o Lerpwl i 'ferry' Holyhead efo merch ifanc roedd yn priodi y bore trannoeth...

    Fel mae'n gweud, dysgodd e mwy am wleidyddiaeth Iwerddon yn y cwpwl o oriau 'na mewn blynyddoedd o wylio'r newyddion.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.