Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Codi Cwestiwn

Vaughan Roderick | 21:52, Dydd Mercher, 20 Mehefin 2007

Dyma'r diweddariad o'r post diwethaf;

"Mae'r aelodau seneddol Llafur newydd ofyn yn swyddogol i Rhodri drafod a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd yr ASau weld y cytundeb arfaethedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Y refferendwm, mae'n debyg, yw asgwrn y gynnen."

Nawr darllenwch hwn o flog ;

"The Welsh Liberal Democrat Group met last night and agreed to wait a bit longer so as to allow Plaid Cymru to make up their minds. We were united however in agreeing that Mike German should approach Rhodri Morgan if the so-called rainbow coalition ceased to be an option. An urgent National Executive meeting will be called to endorse this action if necessary."

Ydy Plaid Cymru yn wynebu dewis rhwng yr enfys a bod yn wrthblaid- ac ai dyna oedd bwriad Ieuan o'r cychwyn?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:07 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Fyddai hi ddim yn amhosibl i'r Democratiaid Rhyddfrydol chwarae dwy rôl hollol ar wahân yn sefydliadau Llundain a Chaerdydd, sef closio at lywodraeth San Steffan, ar un llaw, a bod yn wrthblaid, ar y cyd â'r torïaid yng Nghaerdydd!

    Maer obeithiaf na wnaiff Ieuan gefnu ar syniad y glymblaid â Llafur - byddaf yn bresennol mewn cyfarfod arbennig nos yfory i leisio fy marn! Byddai'n well gennyf i'r Blaid fod yn wrthblaid na chlosio at y torïaid, hyd yn oed torïaid 'Cymreig', chwedl hwythau!

  • 2. Am 11:11 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd meurig:

    Mae gen i gydymdeimlad a 'Helen' yn yr ystyr fy mod i yn amau faint mae'r Toriaid wedi newid mewn gwirionedd. Ond byddai clymblaid Llafur - PC yn galluogi i'r Toriaid ddod yn brif wrthblaid, ac felly'n eu gosod mewn sefyllfa gryfach yn y tymor hir. Mae hon yn ffactor y mae'n rhaid i Blaid Cymru ei gymryd o ddifri. Mae pob garddwr llysiau yn gwybod fod rhaid ymdrin a rhywbeth drewllyd er mwyn medi cynhaeaf gwerth chweil yn y pen draw!

  • 3. Am 12:08 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Fyddai'r torïaid ddim yn ddigon niferus i fod yn wrthblaid gref - dim ond 12 (un rhan o bump) o'r seddau sydd ganddynt.

  • 4. Am 14:09 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Nid yw datganiadau yn erbyn clymbleidio gyda'r Toriaid ond dangos diffyg aeddfedrwydd gwleidyddol ar ran rhai sydd yn dal i ymarfer "student politics".

  • 5. Am 14:35 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd Meurig:

    Nid bod yn wrthblaid gref ar lawr y cynulliad oedd gen i mewn golwg. Ond gyda PC a Llafur mewn llywodraeth, y Ceidwadwyr fyddai'n cael rhwydd hynt yn y cyfryngau i arwain y feirniadaeth ar bob polisi, a byddai'n anodd yn 2011 i Blaid Cymru bortreadu'u hunain fel llywodraeth amgen. Ofnaf y byddai gwleidyddiaeth y cynulliad yn mynd yn rhan o batrwm Prydeinig Llafur v. Tori.

  • 6. Am 16:15 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    I ateb pwynt diwethaf Meurig, dyw hynny ddim yn debygol iawn os bydd rhywfaint o ACau DemRhydd hefyd yn yr wrthblaid. Hefyd, a chymryd taw ymchwydd dros dro yn unig a brofodd y torïaid yn yr etholiadau diwethaf, gallai eu niferoedd haneru erbyn yr etholiadau nesaf. Mae angen inni gadw mewn cof fod y torïaid wedi diflannu'n llwyr o fap Cymru ar ôl etholiadau seneddol San Steffan 1997.

  • 7. Am 16:30 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd Freddy:

    Fel ateb syml i dy cwestiynau - Ie ac efallai.
    Maen'n dod yn fwy a fwy amlwg taw naillai Enfys ac arwain llywodraeth, neu cael eu 'gazumpo' gan y LDs a ASau Llafur yw dewis sy'n gwynebu IWJ a Plaid. Mae gan yr enfys dim ond un cymmal i neidio - cynhadledd Plaid, ond fydd rhai i ddel a Llafur plesio nid yn unig grwp a chynhadledd Plaid, ond ASau Llafur, ACau Llafur, cynhadledd Llafur a'r opsiwn arall o del Llafur a LDs. Amser am arweinyddiaeth sicr!

  • 8. Am 18:26 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd Eirian:

    Gwrthblaid gref. Yr hyn sydd yn gwneud gwrthblaid gref yw'r gallu i ennyn digon o gefnogaeth naill ai ar lawr gwlad (anodd) neu yn y Senedd/Cynulliad/Cyngor (haws) i fedru gorfodi y Llywodraeth/Cyngor i ildio neu colli mewn dadl. Y gofyn i'r dair wrthblaid yn y Cynulliad yw'r parodrwydd i gyd-weithio ar faterion penodol i drechu'r Llywodraeth. Gwelwyd hynny yn yr ail Gynulliad lle na fu bygythiad o ail-etholiad yn bodoli. Mae'n wahanol yn awr gan y gall methiant i benodi Prif Weinidog a fedr cynnal rhaglen llywodraethol arwain at ail-etholiad.
    Heb fod y tair wrthblaid yn cydsynio i ffurfio darpar lywodraeth amgen i Lafur yna gall Llafur yn gyntaf gyflwyno yr oll o'r rhaglen y mae iddi gefnogaeth iddi o unrhyw du arall ac yna pan mae'n barod gyflwyno mesur fydd yn syrthio ac yn ei sgil ymddiswyddo. O wneud hynny byddai'n gorfodi Plaid Cymru i bob pwrpas i ddewis rhwng ceisio clymblaid ar delerau y ddwy blaid lai neu wynebu ail etholiad. Gwerth ail etholiad i Lafur byddai torri gallu Plaid Cymru'n ariannol gan mae cyllideb fach sydd ganddi o gymharu a phleidiau'r ymerodraeth.
    Gedi hyn ddewis i'r Blaid na fyn clymblaid amgen o adael i Lafur ddilyn ei rhaglen neu wynebu gwariant na all ei fforddio ar etholiad arall. Gwrthblaid gwan yw'r blaid honno.

  • 9. Am 22:13 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd Mr Gasyth:

    Yr ateb syml o wela i ydi fod rhaid i ACau Plaid fynnu ymrwymiad gan Lafur cyn eu cyfarfod ddydd Marth na fyddant yn mynd yn ol i drafod efo'r Libs os pleidleisia'r Blaid dros yr opsiwn coch-gwyrdd. Os na cheir yr ymrwymiad yma gan Rhodri Morgan na chant eu gazumpio ar ol dangos eu llaw, yna bydd rhaid i'r Blaid sdicio ef'r enfys.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.