Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cynhadleddau'r bore

Vaughan Roderick | 09:52, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2007

Ymddiheuriadau am beidio bostio dim ddoe- y tro cyntaf i fi fethu ers y cychwyn dw i'n meddwl. Roedd 'na reswm. Hwyrach wnâi esbonio prynhawn 'ma. Mae'n fore Mawrth ac felly yn fore "briefings" Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Fe fydd y manylion yn ymddangos ar y post yma yn ystod y bore.

10.15 Llafur; Doedd gan Lafur fawr ddim i ddweud am y trafodaethau clymblaid ac eithrio hyn "Rydym yn trafod a Phlaid Cymru a Phlaid Cymru'n unig. Mae'r trafodaethau hynny yn bositif ac yn parhau". Yn y cyfamser mae Llafur yn bwrw ymlaen a'i rhaglen ddeddfwriaethol gan flaenoriaethu mesurau lle mae 'na gonsensws yn y cynulliad.

11.00; Y Ceidwadwyr; Mae Nick Bourne yn gwneud ei orau glas i gadw'r enfys yn fyw. Mynnodd fod y glymblaid honno o hyd yn bosibilrwydd a'i fod yn parhau i drafod a Phlaid Cymru. Mae'r blaid wedi sicrhâi dadl yfory yn galw am osod targedi ar gyfer y defnydd o ynni amgen - pwnc lle mae 'na anghytundeb rhwng pleidiau’r enfys a Llafur. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae aelodau Plaid Cymru'n pleidleisio.

12.00; Plaid Cymru; Roedd Ieuan yn hynod ofalus i beidio pechu unrhyw un o'r arweinwyr eraill gan gesio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y clymbleidiau posib. "Dw i ddim yn cymryd yn ganiataol y bydd cytundeb a Llafur yn bosib ond yr unig ffordd i weithredu'n effeithiol yn y sefyllfa yma yw trwy ddelio'n gwbwl onest a phawb"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:40 ar 20 Mehefin 2007, ysgrifennodd Gasyth:

    Ai fi ydi'r unig un sydd dal i aros i glywed y rheswm pam na fu blogio echdoe? Roedd yn swnio fel gallai fod yn ddiddorol. Neu ella dylwn i geisio mynd allan fwy...

  • 2. Am 10:01 ar 20 Mehefin 2007, ysgrifennodd Richard yn Fagerstrand:

    "Roedd 'na reswm. Hwyrach wnâi esbonio prynhawn 'ma."

    Neu fory?! Tyd 'laen wir Dduw. Mae'n straen bron yn ormod i rai ohonom!

  • 3. Am 20:20 ar 20 Mehefin 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Wps! Sori Roeddwn yn gwneud peil o waith cefndir ddydd Llun yn bennaf ar Blair/Brown ond yn fwy diddorol ar arolygon barn. Rwyt ti, Richard, yn gwybod pa mor bwysig yw hi cael y tracking questions yn iawn! Fe fydd ffrwyth y gwaith yn ymddangos wythnos nesaf. Dw i'n hyderus y bydd Roger Scully yn blest!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.