主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Diwrnod Mawr Gordon

Vaughan Roderick | 11:42, Dydd Sul, 24 Mehefin 2007

Does 'na ddim llawer o gymysgu rhwng pobol newyddion 主播大秀 Cymru yn Llandaf a chriw'r adran ddrama yn Nhrefforest ond efallai y byddai o fantais i ni ofyn eu cyngor o bryd i gilydd. Yn sicr roedd stori Doctor Who neithiwr yn ryfeddol o amserol. Hwyrach bod 'na Tardis go iawn yn eu galluogi i baratoi stori am seicopath arallfydol yn cael ei ethol yn brif weinidog i'w darlledu ar y noson cyn i Lafur goroni Gordon Brown fel arweinydd!

Dydw i ddim yn nabod Gordon yn dda er i mi ei holi droeon ond mae'r rheiny sy'n agos ato yn mynnu bod y ddelwedd ohono fel dyn swrth, di-hiwmor yn annheg.

Mae hynny'n gallu digwydd mewn gwleidyddiaeth. Yn aml mae'r ddelwedd yn gwbwl groes i'r person. Mae pobol yn cael hwn yn anodd i gredu ond un o'r gwleidyddion mwyaf dymunol i mi gwrdd a fe erioed oedd Norman Tebbit, gwr a delwedd ffured a'r gynddaredd. Yn yr un modd roedd 鈥淪unny Jim鈥 Callaghan yn gallu bod yn ddyn blin iawn.

Am rai blynyddoedd bu'r cyn aelod cynulliad Delyth Evans yn ran o dim Gordon Brown ac mae'r darlun y mae hi'n cyfleu o ddyn meddylgar, cwrtais a charedig yn gwbwl groes i'r ddelwedd. Bues i'n holi Delyth amdano'r wythnos hon ar gyfer rhifyn arbennig o 鈥淧awb a'i Farn鈥 ac roedd hi'n amlwg ei bod yn ystyried yn berson hynod o hoffus yn ogystal a bod yn wleidydd craff.

Dw i ddim yn sicr a fydd delwedd Gordon yn newid yn y dyfodol ond mae'n bosib nad yw hi'n anfantais. Mae sylwadau Michael Portillo yn y Sunday Times y bore ma yn ddiddorol. Mae'n dweud hyn; 鈥 It is just possible that Britain will elect a candidate on the grounds that he is more charming despite being much weaker but the Tories shouldn't count on it鈥

Serch hynny fe fydd na ddau brawf yn wynebu Gordon yn yr wythnosau nesaf. Y cyntaf wrth gwrs yw cadw Llafur mewn grym yng Nghymru. Er bod y sefyllfa allan o'i ddwylo i raddau helaeth fe fyddai colli Cymru yn ergyd symbolaidd ar ddechrau ei gyfnod yn rhif deg.

Yr ail brawf yw'r is etholiad yn Southall sy'n debyg o gael ei gynnal cyn diwedd Gorffennaf. Mewn etholaeth lle mae trigain y cant o'r boblogaeth o dras Asiaidd mae'n etholiad sy'n anodd ei ddarllen. Fe fydd dewis yr ymgeisydd iawn yn holl bwysig, dybiwn i.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.