Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dydd y farn

Vaughan Roderick | 10:09, Dydd Gwener, 22 Mehefin 2007

Rhwng popeth dw i wedi bod yn eithaf esgeulus wrth flogio'r wythnos yma. Mae 'na nifer o resymau am hynny, galwadau eraill ar fy amser, yr angen i gadw'r traffig i lawr wrth fudo a'r teimlad ein bod yn dechrau troi mewn cylchoedd yn eu plith.

Ond y prif reswm am y mudandod cymharol yw pa mor ddisgybledig ac amharod i siarad yw'r rheiny sy'n agos at y trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Gellid dadlau wrth gwrs bod "gwleidyddion yn gwrthod siarad" yn stori ynddi ei hun ac yn sicr ac mae "Plaid Cymru yn ymddwyn yn ddisgybledig" yn bennawd bron mor annisgwyl ac "Elvis yn fyw ac yn rhedeg siop chips yn y Bala".

Ta beth, mae dydd y farn yn agos a'r pwysau a'r Ieuan a Rhodri yn enfawr. O nabod y ddau dw i'n gwbwl sicr bod y trafodaethau rhyngddynt wedi bod yn rhai didwyll ac anrhydeddus ond dyw hynny ddim, o reidrwydd, yn golygu y bydd na lywodraeth coch-gwyrdd.

Problem gyntaf Ieuan yw bod 'na nifer o fewn ei blaid gan gynnwys nifer o hen bennau a rhestr siopa uchelgeisiol iawn. Heb addewidion y mae Llafur yn annhebyg o roi fe fydd y bobol hynny yn brwydro dros yr enfys.

Problem Rhodri yw'r rhan hynny o'r blaid sy'n gobeithio ail-agor trafodaethau a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Mike German wedi gwneud hi'n eglur y byddai hynny ond yn digwydd ar ôl i Blaid Cymru gefni ar yr enfys, hynny yw ar ôl i Blaid Cymru cyrraedd cytundeb a Llafur. Dw i ddim yn meddwl y byddai hi'n wleidyddol realistig i Rhodri gyrraedd cytundeb ac un blaid ac yna torri ei air a throi at blaid arall. Dyna, mewn gwirionedd, y mae'r rhai sydd am gytundeb a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn disgwyl iddo wneud.

Fe ddywedodd un aelod cynulliad Llafur wrtha’i ddoe bod hi'n anodd cael pobol i dderbyn bod y blaid yn wynebu dewis rhwng coch-gwyrdd a bod yn wrthblaid a thra bod y lleisiau hynny'n parhau'n uchel eu cloch fe fydd sicrwydd a diogelwch yr enfys yn demtasiwn cyson i Ieuan.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:36 ar 23 Mehefin 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    "Elvis yn fyw ac yn rhedeg siop chips yn y Bala".

    Gallet ti fod wedi gweud yn gynnarach - roeddwn yn teimlo bach yn 'peckish'..

    Am y blogio yn mudo - wel, 'Never mind the width, feel the quality'...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.