Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffrindiau fel rhain (3)

Vaughan Roderick | 13:03, Dydd Sadwrn, 30 Mehefin 2007

"Ydych chi'n cofio addewidion etholiadaol Llafur? Ryn ni'n cofio.
Ryn ni'n gwybod fod Tony Blair wedi dweud celwydd am arfau dinistr torfol yn Irac. Ryn ni'n gwybod fod Llafur Newydd wedi dweud celwydd am ofal cartref rhad ac am ddim i'r henoed yn etholiadau'r Cynulliad, a nawr ryn ni'n gallu gweld faint o wirionedd oedd yn eu haddewidion etholiadau lleol yma yn y Porth.
FFAITH: Allwch chi ddim ymddiried yn Llafur."

Taflen Plaid Cymru yn y Rhondda

"The MP leading the charge against Tony Blair over the Mittal affair has been warned that Labour is planning a smear campaign against him. In an interview with The Telegraph, Adam Price said he had been told by a friend in the Labour Party that a team of researchers was compiling a 'dossier of dirt' about him." Daily Tegraph 9/3/2002

"Those sitting in the gutter should not be slinging mud. The most ludicrous, malicious and untrue allegation was made by the Plaid Cymru MP, Adam Price, who claimed that 'up to 20 staff at Labour's Millbank headquarters were employed to comb through every aspect of his private life'. This is total self-serving nonsense." Charles Clarke Times 12/6/2002

"Mae Cymru yn haeddu ail gyfle, peidiwch gadael i Llafur ei wastraffu! Ar y cychwyn roedd gweithredoedd y llywodraeth Llafur yma'n anghredadwy. Ond erbyn hyn rydyn ni'n gwybod sut rai ydyn nhw nawr." Jill Evans ASE
24/3/2005

"Our shared values and interests are now under threat as never before from an opportunistic coalition of myopic Tories and the narrow separatists of Plaid Cymru" Peter Hain 15/01/07

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:36 ar 30 Mehefin 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Beth yn union ydi pwynt ailadrodd gwahanol bethau cas mae pobl yn y Blaid a Llafur wedi dweud am ei gilydd tros y blynyddoedd?

  • 2. Am 08:45 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Mae'n rhoi rhywbeth i mi bostio ar ddiwrnod tawel! Dw i hefyd yn gweld hi'n ddiddorol bod rhai o'r rheiny o fewn Plaid Cymru oedd yn fwyaf ffafriol i glymblaid coch-gwyrdd ymhlith y rhai fu'n mwyaf llawdrwm yn eu beirniadaeth o Lafur. Dw i ddim yn meddwl bod tynnu sylw at anghysondeb yn ddi-bwynt.

  • 3. Am 11:08 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Gormod ohoni yn fy nhyb i Vaughan - nifer o weithiau dros y diddiau diwethaf....os ti'n syrffedi ti'n cael gofyn cwis nawr ac yn y man !!!

  • 4. Am 12:10 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Mae'r ffaith bod yr 'anhysondeb' yn cael ei ystyried yn ddiddorol yn dweud llawer am y ffaith bod clymbleidio yn broses anghyfarwydd yng Nghymru.

    Mae clymbleidio mwy anhebygol wedi digwydd yn yr Iwerddon yn ddiweddar - rhwng Fianna Fail, Y Blaid Werdd, Y Progressive Democrats a thri aelod annibynnol digon lliwgar.

    Byddai rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd gan gwahanol wleidyddion o fewn y grwpiau hyn am bleidiau ei gilydd yn sylfaen da iawn ar gyfer casgliad o dermau sarhaus. Mi fetia i fy nghap y bydd y glymblaid - neu'r rhan fwyaf ohoni yn dal mewn lle mewn pedair blynedd.

    Felly mae pethau'n gweithio gyda PR. Fel ym mhob cyfundrefn arall mae gwleidyddion yn sarhau ei gilydd - yn rhannol am nad ydynt yn hoffi ei gilydd rhyw lawer beth bynnag, ac yn rhannol er mwyn ceisio pardduo eu gwrthwynebwyr ac felly ennill pleidleisiau.

    Gyda mae'r pleidleisiau wedi eu cyfri, mae'r gem yn newid - ennill grym, ac nid ennill pleidleisiau ydi'r bwriad wedyn. Golyga hyn fod yn neis gyda phobl nad ydych wedi bod yn neis gyda nhw yn y gorffennol.

    Mae'r 'anghysondeb' yn edrych yn rhyfedd, ond mae'n ddigon hawdd i'w egluro.

  • 5. Am 13:57 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Cai, Rwyt ti yn llygaid dy le, wrth gwrs. Ond yma yng Nghymru dyw'r broses ddim ar ben eto. Mae gan Lafur a Phlaid Cymru gyfarfodydd pwysig i ddod a dw i yn meddwl bod gan aelodau'r ddwy blaid yr hawl i ystyried sylwadau blaenorol eu harweinwyr wrth bwyso a mesur y cyngor sy'n cael ei roi.

    Dewi, Fe fydd y cwis yn dychwelyd maes o law!

  • 6. Am 14:33 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Mi fydd Cyngor Cenedlaethol y Blaid yn derbyn y glymblaid gyda mwyafrif sylweddol.

    Y cwestiwn ydi os bydd Llafur yng Nghymru yn gwrando ar Kinnock et al.

    Gyda llaw - mae'r sawl sy'n weithredol yn y ddwy blaid yn ymwybodol o'r hyn sydd wedi ei ddweud a'i wneud yn y gorffennol.

    Does yna fawr o gariad rhwng weithwyr y ddwy blaid, a fydd yna ddim - beth bynnag ganlyniadau'r cyfarfodydd fydd yn digwydd tros y dyddiau nesaf.

    Serch hynny - wnaiff drwg deimlad ynddo'i hun ddim atal clymblaid. Mae'r wobr i'r ddwy ochr yn rhy fawr.

  • 7. Am 17:37 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Bwbach:

    Dwi'n eitha mwynhau'r blogio am Ffrindiau Fel Rhain. Mi ddyfalwn i fod Cai a Dewi yn Bleidwyr, neu'n Lafurwyr...

    Y gwir plaen amdani yw unai fod y gwleidyddion wedi dweud celwydd o'r blaen, neu mae nhw'n dweud celwydd nawr.

    Hynny yw, unai "Allwch chi ddim ymddiried yn Llafur" oedd gwirionedd Plaid Cymru, neu mi allwch chi ymddiried ynddynt sydd yn wir.

    Rhagrith yw bai mwyaf gwleidyddion o bob oes. Os "allwch chi ddim ymddiried yn Llafur", dylech fynd yn wrthblaid gref. Fel arall, roeddech chi'n rhagrithiol.

    Wna i, na llawer o fy nghyfeillion, ddim rhoi pleidlais i ragrithiwr. Dysgwn wers.

  • 8. Am 19:54 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Eirian:

    Bwbach.
    Bydd angen cymorth y cymdogion i ddwyn y cynhaeaf i'r ysgubor yn enwedig gan y bydd refferendwm ar y daith. Bydd yn rhaid wrth parodrwydd i gydweithio boed yr ymddiriedaeth a'r hoffter yn brin ai peidio.
    Mater o rheidrwydd ac ymarferoldeb yw hynny nid rhagrith.
    Mae'r un peth yn wir am gydweithio mewn gweithleoedd ledled Cymru.

  • 9. Am 21:23 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Mae gen i ofn nad yw gwleidydda yn weithgaredd sy'n annog geirwiredd. Mae gwleidydd cwbl onest yn gadael ei hun yn agored i gael ei ddifa'n wleidyddol gan ei elynion. Gor liwio ffaeleddau gwrthwynebwyr a gor liwio llwyddiant eich plaid eich hun ydi'r esiamplau mwyaf cyffredin o anonestrwydd gwleidyddol.

    Mae hyn yn wir ym mhob man, pob amser.

    Serch hynny mae graddau o anonestrwydd hyd yn oed o fewn y proffesiwn hwn. Byddwn yn ystyried Tony Benn neu Ken Livingstone yn wleidyddion cymharol onest. Byddwn yn ystyried Tony Blair yn wleidydd rhyfeddol o anonest.

    Ond, os ydym am eu barnu wrth y safonau hynny yr ydym yn eu disgwyl yn ein bywydau pob dydd, yna mae'r tri yn anonest - ynghyd a phob gwleidydd arall.

  • 10. Am 21:32 ar 1 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Un sylw bach arall - yn Iwerddon mae'r Progressive Democrats yn ystyried Fianna Fail yn blaid lwgr. Mae gwirionedd i'r canfyddiad hwnnw.

    Eto maent yn mynd i lywodraeth gyda FF pob tro mae'r cyfle'n codi. Y rheswm / esgys? I gadw golwg arnyn nhw wrth gwrs!

    Rwan pwy ydi'r mwyaf anonest yn hyn o beth FF neu'r PDs? 'Dwi'n gwybod beth fyddai fy ateb i i'r cwestiwn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.