Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Coch a Gwyrdd?

Vaughan Roderick | 17:16, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

O'r diwedd dw i'n cael sgwennu'n fanwl am yr hyn dw i wedi bod yn ensynio yn ystod y dydd.

Mae dyfodol llywodraeth y cynulliad yn ôl yn y fantol. Am y tro cyntaf mae aelod Llafur blaenllaw wedi awgrymu'n gyhoeddus y gallai Llafur ffurfio clymblaid a Phlaid Cymru.

Mewn cyfweliad a rhaglen Dragon's Eye dywedodd y gweinidog iechyd Edwina Hart y byddai hi'n ddigon hapus i eistedd wrth y bwrdd cabinet gyda Ieuan Wyn Jones.

Ymateb oedd Edwina i alwad Adam Price am glymblaid rhwng ei blaid e a Llafur. Mae llefarydd Rhodri Morgan yn fwy pwyllog gan ddweud ei fod o hyd yn disgwyl am ymateb gan Ieuan Wyn Jones i'w lythyr yn gwahodd trafodaethau pellach.

Beth yw goblygiadau'r stranciau diweddara? Wel dw i'n amau bod Adam yn ceisio gwneud dau beth. Yn gyntaf roedd am weld a oedd y safbwynt Llafur ynglŷn â chlymblaid ffurfiol wedi newid. Dw i hefyd yn amau ei fod yn disgwyl i'r ateb i'r cwestiwn hwnnw fod yn negyddol - ateb a fyddai'n cryfhau dadl cefnogwyr yr Enfys.

Beth felly oedd cymhelliad Edwina wrth roi ei hateb cadarnhaol ? Ymdrech oedd hi dw i'n amau i wneud hi'n eglur nad yw pawb o fewn Llafur yn ymwrthod yn llwyr a'r syniad o glymblaid coch-gwyrdd. Gallai hynny demtio Ieuan yn ôl i'r bwrdd ac os nad yw hynny'n digwydd fe fydd llaw gwrthwynebwyr yr enfys o fewn Plaid Cymru wedi ei gryfhau.

Croeso i ail hanner y gêm!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:56 ar 7 Mehefin 2007, ysgrifennodd dylan:

    Mae hwn yn gam mawr tuag at nod Plaid Cymru o ail-strwythuro gwleidyddiaeth radical Cymru. Mae Llafur ar chwal ac mae raid i'r Blaid fynd ati i lincio gyda Edwina a Carwyn er mwyn creu ffrynt chwith genedlaetholgar i wthio drwodd polisiau blaengar. Yn fwya' pwysig, mae'n bosib cael refferendwm ar bwerau ehangach.
    Yr opsiwn arall? Enfys lle mae gan y Toriaid veto dros bopeth a chlymblaid ansefydlog fydd yn golygu diwedd ar obeithion pwerau ychwanegol am genhedlaeth.
    Mae angen pobl dewr nawr yn arwain y Blaid.

  • 2. Am 09:09 ar 8 Mehefin 2007, ysgrifennodd meurig:

    Stwff diddorol iawn. Dydw i ddim yn amau fod Adam ac eraill yn ddiffuant yn eu dymuniad i weld ail-lunio gwleidyddiaeth Cymru ar linellau coch-gwyrdd yn y dyfodol, ond is-destyn clir datganiadau ddoe o'r ddwy ochr oedd pa liw llywodraeth fydd gennym erbyn yr hydref.

    Da hefyd gweld Dragon's Eye yn pigo lan ar stori'r WDA a treth ar werth. Tybed oes mwy i'r stori hon; nid dim ond ar ffioedd asiantaethau hybu busnes y mae TAW nawr yn daladwy, ond ar agweddau eraill o waith y cyn-WDA hefyd? Wedi'r cyfan, rhaid bod dipyn yn cael ei wario ar ffioedd ymgynghorwyr, penseiri ac ati.

  • 3. Am 09:48 ar 8 Mehefin 2007, ysgrifennodd Ceri Evans:

    Mae na eglurhad arall. Dyma'r tro cynta i Edwina gwneud cyfweliad ers yr etholiad a mae hi just yn rhoi barn ei hun, yn onest, fel y mae hi pob tro, heb unrhyw agenda arall.

    Bydd pob un or cabinet yn hapus i creu clymblaid gyda Plaid, os oes rhaid i cadw Llafur mewn rym. Hefyd y Lib Dems.

    Nid yw hynnu'n wir am y dirpwryion, wrth gwrs, on does ganddynt lawer or rym yn y parti.

  • 4. Am 12:38 ar 8 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    O'r diwedd! Mae'n hen bryd inni gael llywodraeth sy'n adlewyrchu'n wirioneddol deimladau'r pleidleiswyr. Dwy ddim yn mynd i ochneidio eto - ddim hyd nes y bydd trefniadau'n fwy pendant. Da o beth, yn wir, fyddai gweld ad-drefniad ar y meinciau blaen a rhai pleidwyr ar y cabinet. Croesaf fy mysedd - mae digon o dir cyffredin rhwng Coch a Gwyrdd i greu llywodraeth glymbleidiol gref.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.