Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dilema'r Democratiaid

Vaughan Roderick | 11:16, Dydd Llun, 11 Mehefin 2007

Dyw penderfyniad i herio Lembit Opik ym Maldwyn ddim yn annisgwyl. Mae pawb wedi bod yn tynnu ei goes am y peth byth ers etholiadau'r cynulliad. Ddydd Gwener ar "Dau o'r Bae", er enghraifft, roedd Roger Roberts yn ceisio ei demtio i Dy'r Arglwyddi gan synhwyro efallai faint o broblemau y gallai fe achosi i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn.

Yn dechnegol, wrth gwrs, mae'n rhaid i Glyn dderbyn sêl bendith Torïaid Maldwyn ond go brin y bydd Ceidwadwyr y sir yn gwrthod eu cyfle gorau ers dyddiau Delwyn Williams i gipio'r sedd.

Tipyn o ffliwc oedd buddugoliaeth Delwyn yn 1979 mewn gwirionedd. Roedd Rhyddfrydwyr Maldwyn mor fisi yn trefnu digwyddiadau i ddathlu canrif o gynrychiolaeth Ryddfrydol yn y senedd nes eu bod yn rhu prysur i ymgyrchu!

Dychwelwyd i'r drefn arferol yn 1983 ar ôl pedair blynedd o'r gynrychiolaeth ryfedda a welodd unrhyw etholaeth Gymreig erioed. Cyrhaeddodd ei phenllanw gydag erthygl yn y Daily Mail lle hawliodd Delwyn bod ganddo ffensys uchel a chŵn i amddiffyn ei dy rhag "nationalist extremists". Dywedodd ei fod yn ofni am ei fywyd gymaint nad oedd bellach yn gallu treulio ei amser yn dilyn ei hobi sef " relaxing on the beach in Welshpool."

Byth ers hynny mae 'na wedi bod mwy o obaith canfod traeth yn y Trallwng nac ethol Ceidwadwr ym Maldwyn!

Fe fydd pethau'n wahanol iawn wrth i Glyn sefyll. Mae Lembit yn un sylweddol ond mae poblogrwydd Glyn, cyhoeddusrwydd diweddar Lembit a'r posibilrwydd o lif cyffredinol i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad nesaf yn gwneud hon yn ras i wylio.

Mae Glyn yn hoff o'n hatgoffa bod y Ceidwadwyr wedi ennill y bleidlais ranbarthol ym Maldwyn ym Mis Mai. Mae'r un peth yn wir drws nesa ym Mrycheiniog a Maesyfed. Mae'n bwysig felly nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd seddi Powys yn ganiataol y tro nesaf ond fe fydd ymgyrchu'n galed yn y ddwy sedd hynny yn creu problem arall i'r blaid.

Yn 2005 roedd y blaid yn gallu gorffwys ar eu rhwyfau ym Mhowys gan ganolbwyntio ei hadnoddau ariannol a dynol ar ddwy etholaeth sef Canol Caerdydd a Cheredigion. Enillwyd y ddwy ond mae'n bosib bod 2005 yn benllanw i'r blaid. Fe ddylai sedd Jenny Willott fod yn ddiogel y tro nesa ond, heb help llaw o Bowys, ai deiliad un tymor fydd Mark Williams?

Dyw e hi ddim yn amhosib rhagweld sefyllfa lle fyddai na ond un aelod seneddol Cymreig gan y blaid. Dyw hynny ddim yn brofiad newydd iddi ond y tro hwn nid Maldwyn neu Geredigion fyddai'r cadarnle ond Canol Caerdydd. Gallai'r sefyllfa honno ail-danio hen ddadleuon o fewn y blaid rhwng yr asgell wledig draddodiadol a gwleidyddion cymunedol y dinasoedd a'r trefi.

Ffactorau fel hyn, dw i'n meddwl oedd yn dylanwadu ar rheiny fel oedd yn dymuno gweld y blaid yn cymryd hoe ar feinciau'r gwrthbleidiau yn y cynulliad i ystyried ei strategaeth a'i chyfeiriad. Go brin fod 'na amser i wneud hynny. Dw i'n synhwyro bod na tsunami arall o daflenni Rhyddfrydol ar y ffordd!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:59 ar 11 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Pwy fydd ymgeisydd y Blaid yng Ngeredigion ysgwn i ?

  • 2. Am 19:38 ar 11 Mehefin 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Cwestiwn da Dewi. A fydd PC am dreial Simon eto neu yn chwilio am waed newydd? Dw i ddim yn gwybod faint o wirionedd sydd yn y peth ond dw i wedi clywed enw un o deulu Talar Wen yn cael ei grybwyll.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.