Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhaglen Rhodri

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2007

Fe fydd manylion rhaglen ddeddfwriaethol Rhodri Morgan yn ymddangos ar dudalennau newyddion "Cymru'r Byd". Gwnâi ddim eu hail-adrodd yn fan hyn felly ond mae'n amlwg bod y datganiad wedi ei lunio yn unswydd i geisio sicrhâi parhad y llywodraeth leiafrifol.

Efallai mai'r cyhoeddiad pwysicaf oedd un a gafwyd mewn llythyrau a ddanfonwyd gan y llywodraeth at Ieuan Wyn Jones a Mike German. I bob pwrpas mae'r llywodraeth wedi rhewi'r cynlluniau i ad-drefnu ysbytai Cymru, y cynllun wnaeth cymaint o niwed i Lafur yn yr etholiadau. Roedd hynny i'w ddisgwyl. Fe fyddai bwrw ymlaen a'r cynllun yn cyfateb i hunanladdiad gwleidyddol gan roi rheswm amlwg a phoblogaidd i'r gwrthbleidiau ddymchwel y llywodraeth.

Mae'r materion deddfwriaethol fydd yn cael eu trafod cyn yr haf yn rhai lle mae 'na gryn dipyn o gonsensws yn barod. Mae mesurau mwy dadleuol fel mesur iaith yn annhebyg o gyrraedd y siambr cyn yr hydref.

Er bod y datganiad yn amlwg wedi ei lunio i geisio plesio Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol does 'na ddim arwydd bod brwdfrydedd y pleidiau hynny tuag at y syniad o lywodraeth enfys yn pylu. Roedd hi'n gwbwl amlwg yn ddadl bod arweinwyr y gwrthbleidiau yn cydlynu eu tactegau. Fe fydd yr wythnosau o hyn tan wyliau'r haf yn wythnosau hir a pheryglus i Lafur

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:15 ar 6 Mehefin 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Mae Rhodri Morgan OND wedi cynnig trafod Mesur Iaith a Tai fforddiadwy gyda'r Rhyddfrydwyr ac nid gyda Plaid Cymru.

    Mae e'n amlwg yn teimlo y bydd modd iddo sicrhau cefnogaeth y Rhyddfrydwyr i Fesur Iaith llai uchelgeisiol.

    Rhaid i'r Rhyddfrydwyr sefyll yn gadarn a mynnu:

    1, Statws swyddogol i'r Gymraeg
    2, Sefydlu Comisiynydd i'r Gymraeg
    3, Rhoi'r hawl i bobl Cymru ddefnyddio, dysgu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg

  • 2. Am 18:47 ar 6 Mehefin 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Byddai Plaid Cymru yn wirion i lyncu abwyd y Blaid Lafur - a byddai Llafur yn chwerthin tu draw i'r Bae petai Plaid Cymru ag adain 'flaengar' (h.y. barod i weithio o dan Blaid Lafur) yn digon diniwed i'w dderbyn.

    Mae angen i Gymru gael 4 mlynedd heb Lafur, wedyn gallwn ni oll edrych ar bethau o'r newydd.

    Wn i ddim pan nad yw'r Enfys yn dad-orseddu Lalfur nawr. Beth sydd i'w golli? Mae Llafur eisoes am ddefnyddio'r linell 'Vote Plaid Get Tory' yn 2011 felly, man a man ei weithredu nawr. Does dim i'w golli ac mae cynllun yr Enfys yn llawer mwy credadwy a chynhyrfus.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.