主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Syr Eric sydd sur

Vaughan Roderick | 13:13, Dydd Sadwrn, 9 Mehefin 2007

Un o broblemau'r dechnoleg newydd yw bod hi'n llawer anoddach i wleidyddion neu newyddiadurwyr gael "get-away" a rhywbeth. Yn yr hen ddyddiau os oedd rhyw un yn dweud rhywbeth twp neu fyrbwyll ar y radio neu'r teledu roedd 'na siawns go dda na fyddai unrhyw un yn sylwi. Fe fyddai ambell i wrand盲wr neu wyliwr yn gofyn i'w hun "beth ddwedodd e? ...wnaeth e ddweud hynny mewn gwirionedd?" ond doedd dim modd checio ac fe fyddai'r holl beth yn mynd yn angof.

Nawr trwy garedigrwydd gwasanaethau "gwrando eto", Sky+, YouTube ac eraill mae pob camgymeriad ar gof a chadw, yn rhydd i bawb ei weld a'i ail-gyhoeddi.

Fe ddysgodd y George Allen, seneddwr o Virginia a'r ffefryn ar y pryd i fod yn ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwr, bod un gair allan o le o flaen camera yn gallu arwain at ddinistr. Cewch ddarllen ei hanes yn. Fe ddysgodd trigolion t欧 Big Brother wers debyg yr wythnos hon.

Ers talwm roedd gan siaradwyr Cymraeg fantais ychwanegol. Ar 么l dweud rhywbeth hurt yn Gymraeg roedd 'na wastad obaith y byddai'r peth yn cael ei gadw o "fewn y teulu" ac yn cael ei anwybyddu y tu allan i'r Gymru Gymraeg.

Os oedd y stori yn croesi'r ffin ieithyddol roedd hi wastad yn bosib hawlio "nad yw'r cyfieithiad yn adlewyrchiad teg o'r hyn ddwedais" neu " dyw'n Cymraeg i ddim yn sbeshial, doeddwn i ddim yn golygu hynny..."

Un a lwyddodd i fod yn "off-message" am ddegawdau heb fawr o drafferth oedd Syr Eric Howells. Yn y dyddiau pan oedd hi'n bosib cyfri Ceidwadwyr Cymraeg eu hiaith ar fysedd un llaw, Syr Eric, yn amlach na pheidio, oedd llefarydd Cymraeg ei blaid.

Yn amlach na pheidio hefyd fe fyddai sbin-ddoctoriaid y Blaid wedi bod yn eu dagrau pe bai nhw'n gwybod beth yn union oedd yr oedd y ffermwr di flewyn ar dafod yn dweud. Os oedd Eric yn meddwl bod araith yn s芒l neu bolisi yn anghywir roedd yn dweud hynny cyn troi n么l wrth weni at swyddogion uniaith y Blaid.

"What did you tell Radio Cymru Eric?"

"Oh, just the usual..."

Yn y diwedd cafodd Syr Eric ei ddal allan. Fe ddylai fe wedi sticio at y Gymraeg yn hytrach na datgan yn Saesneg ar Dragon's Eye ei yng Ngorllewin Caerfyrddin.

Deuddydd ar 么l yr etholiad cafodd ei ddiarddel o'r Blaid a heddiw mewn llythyr yn y mae'n cwyno am y ffordd mae wedi ei drin.. Mae'n dweud hyn.

"Big Brother has taken over from central office. The party chairman Theresa May, when addressing the party conference a few years ago, referred to the Conservative Party as the nasty party. My experience confirms that as a very true statement.鈥

Mae'n anodd peidio teimlo dros Eric. Do fe gafodd ei urddo'n farchog am ei wasanaeth gwleidyddol ond fe dderbyniodd e'r un geiniog am filoedd o oriau o wasanaeth i'r blaid. Oedd, roedd e'n gallu dweud pethau hurt oedd yn achosi embaras weithiau. Ond p鈥檜n sydd orau i wleidyddiaeth- y gwirfoddolwyr gonest di-sglein neu'r siwtiau sgleiniog proffesiynol sydd mor amlwg yn y pleidiau i gyd y dyddiau hyn?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:34 ar 9 Mehefin 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Gwir iawn Mr Roderick. Ond 'we get the politicians we deserve'. Gwnaeth Tony Blair ei orau i gadw Rhodri o'r job am ei fod yn blaen ac yn ffraeth yn ei iaeth.

    Ond nid oes 'second-chance' dyddiau 'ma - gwedwch rhywbeth drwg unwaith, ac mae yn rhy hwyr. Nid wyf yn cydfynd a beth wedodd Patrick Mercer, ond er iddo ymddiheurio, roedd yn rhy hwyr. Nid bai Cameron oedd hwn yn gyfangwbl - nid oes amynedd gyda phobl i aros am esboniad neu ymddiheuriad.

    Efallai fod hwnna yn beth da yn esiampl 'Big Brother'. Ond y broblem gyda 'Zero Tolerance' [fedra i ddim cyfiethu fo yn wir i'r gair] yw beth sydd yn digwydd os ydyw prifathro yn dweud y gair 'spooks' wrth drafod llyfr am ysbrydion, a chael ei gam ddeal i fod yn rhywbeth hiliol.

    Y broblem nawr yw fod y 'BNP' yn dysgu y gwersi yma, a hwpo 'spin' mwy addfwyn ar eu polisiau mwyaf gweladwy gan 'gwato' eu casineb tu ol i'r siwtiau.

  • 2. Am 11:12 ar 10 Mehefin 2007, ysgrifennodd Bwbach:

    Bedd Gelert - Glywais i rhyw damaid yn cael ei ddarllen ar raglen PM Radio 4 ychydig ddyddiau yn ol. A'r awdur? Rhyw fachan o'r enw Bedd Gelert. Rhyfedd o fyd!

    Gyda llaw. Dyma ddiwedd Plaid Cymru. Wnaiff y blaid fach fyth atgyfnerthu eto ar ol cael ei chlymu drwy drafodaethau gyda'r ceidwadwyr. Dyna fydd slogan (gwir) Llafur am byth bythoedd nawr. A digon teg felly am wn i.

    Ymhellach, mae rhwyg enfawr yn rhengoedd y blaid fach. Mae yno genedlaetholwyr (dim ots pa liw, ond fod Cymru'n rhydd), tra mae eraill yn sosialwyr Cymreig. O siarad gyda rhai degau o bobl weithgar y blaid yn ddiweddar mae'n amlwg fod llawer un (y cyfan i ddweud y gwir) wedi cael llond bol. Mae nifer fawr (bron y cyfan i mi siarad a nhw) yn dweud na wnan nhw ganfasio dros Plaid Cymru fyth eto oherwydd hyn. Mae'r ffaith fod trafod wedi bod yn ddigon i lywio'u penderfyniad mae'n debyg.

    Bu holi beth yw diben y blaid ddemocratiaid ryddfrydol. Credaf mai'r gwir gwestiwn, nawr fod cynulliad gyda ni, yw beth yw pwrpas Plaid Cymru? Mae'r blaid wedi cyrraed ei nod. Llywodraeth i Gymru. Nid ydynt am wthio am annibyniaeth. Mae pleidiau eraill yn chwilio am fwy o bwerau i'r cynulliad.

    Tybed oes angen plaid Cymru Goch i arwain y fintai dros annibyniaeth a sosialaeth? Mae'r rwyg yn amlwg, y cwestiwn yn awr yw a oes gan rhywun o fewn y blaid y weledigaeth, a'r dewrder, i symud pethau ymlaen. Ar hyn o bryd mae nifer fawr o sosialwyr cenedlaetholgar yng Nghymru heb neb i'w harwain, ar wahan i blaid sydd yn ystyried cydweithio gyda'r asgell dde.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.