主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Y Diweddara... a mwy

Vaughan Roderick | 20:20, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007

Ymddiheuriadau yn gyntaf bod na drafferthion technegol wedi bod heddiw yn enwedig wrth bostio sylwadau.

Dyma sut mae pethau ar hyn o bryd.

Mae cefnogwyr coch-gwyrdd o fewn Plaid Cymru yn hyderus bod ganddynt gefnogaeth wyth o'r pymtheg Aelod Cynulliad. Alun Ffred Jones oedd y bleidlais allweddol mae'n debyg. Mae'r aelodau hynny yn mynnu nad yw'r newid yng ngeiriad cymal cyntaf y cytundeb (yn ymwneud a refferendwm) yn glastwreiddio'r addewid Llafur i weithio dros Senedd.

Er eu bod yn optimistaidd mae clymbleidwyr y ddwy blaid yn poeni y gallai stori y mae disgwyl iddi ymddangos yn y 鈥淲estern Mail鈥 bore fory chwerwi pethau. Dydw i ddim yn gwybod beth yw cynnwys y stori honno. Cawn weld.

DIWEDDARIAD: Mae Pwyllgor gwaith Llafur Cymru wedi cymeradwyo'r glymblaid. Dw i'n cael ar ddeall hefyd bod wedi darbwyllo'r aelodau nad oedd clymblaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bosib. Fe fydd Llafur yn gwrthod unrhyw ymgais gan y Democratiaid Rhyddfrydol i ail-agor trafodaethau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:57 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Cyfaddawd hanesyddol....ble dwi wedi clywed hynni o'r blaen ! Gan Gramsci lawer i ateb amdani !

  • 2. Am 23:10 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae'r 'compromesso storico' (cyfaddawd hanesyddol) yn yr Eidal yn mynd yn 么l i 1973, ac yn ymgais gan Enrico Berlinguer, Ysgrifennydd y Blaid Gomiwnyddol ar y pryd, i ddod 芒'r holl brif bleidiau at ei gilydd er mwyn amddiffyn democratiaeth yr Eidal rhag y math o 'coup d'茅tat' a welwyd yn Chile yn gynharach yn y flwyddyn (ffrwyth ymyrraeth Nixon a Kissinger, ac efelychiad o'r hyn a oedd wedi digwydd yng Ngwlad Groeg ym 1967, ond mwy am hynny rywbryd eto, efallai). Os rhywbeth, roedd y cyfaddawd Eidalaidd yn enfys wirioneddol, am ei fod yn cwmpasu'r Democratiaid Cristnogol ar y dde a'r Comiwnyddion a'r Sosialwyr ar y chwith. Fodd bynnag, er gwaetha'r theori glodwiw, ni pharodd yr ymbar茅l honno'n hir iawn, a chafwyd nifer o etholiadau seneddol o fewn cyfnod cymharol fyr. Gallai hyn fod yn rhybudd rhag unrhyw glymblaid enfys yng Nghymru - gwell cadw at y glymblaid ar y chwith rydym mor agos at ei gwireddu.

  • 3. Am 02:17 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd antonio:

    Dan ni'n byw mewn oes ddiddorol pan mae Marcsydd o Sardinia'n cael ei ddefnyddio fel arweiniad i'n gwleidyddiaeth ni.
    Mae cyfraniad Adam Price, eminence gris y broses wleidyddol ddiweddar, wedi bod yn allweddol o bwysig. Gawn ni obeithio y daw yn ol i Gymru'n fuan i arwain yr "historic compromise"

  • 4. Am 08:45 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd D thoams:

    Dwi heb glywed am Gramsci ers dyddie coleg pan oedd fy nhyfaill a oedd yn Farcsydd pryd 'ny yn traethu amdano.

  • 5. Am 14:45 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dewi:

    O ni heb ddarllen blog Adam cyn son am Gramsci onest......

  • 6. Am 16:09 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    Dwi'n meddwl fod dadansoddiad Helen sy'n cymharu clyblaid enfys Gymraeg gyda llywodraethau'r Eidal ar ol yr ail rhyfel byd braidd yn anheg. I ddechrau, dydy clymbleidiau o'r chwith neu'r dde yn unig ddim wedi cael mwy o lwyddiant o stabilrwydd yn yr Eidal nag'r degawdau o glymblaid Partito Soclalista/DemoCristiani yno. (A gweud y gwir, ma'r dde wedi cael y gorau ar stabilrwydd o drwch blewyn ers y nawdegau). Yn ychwanegol, roedd clymblaid PS/DC yn fodd o osgoi cael y comiwnyddion neu'r ffasgwyr fel rhan o'r llywodreath. Dwed beth wyt ti moyn, ond dwi ddim yn meddwl gallai ynrhyw un o ddifri gymharu un o'r bedwar blaid yn y Senedd gyda gwleidyddiaeth eithafol, boed dde neu chwith.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.