主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ambell i syniad

Vaughan Roderick | 10:26, Dydd Llun, 16 Gorffennaf 2007

Llanfihangel-y-pwll, Llanfihangel-yn-y-gwaelod, Michaelstone-le-pit. Am le mor fach mae gan y pentref hwn ddigonedd o enwau. Mae 'na ddigon o glowt gwleidyddol yma hefyd. Yn Llanfihangel y mae cartref y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, a chartref deheuol y Llywydd, Dafydd Elis Thomas. Yr aelod Ceidwadol Andrew Davies sy'n ffermio'r tir o gwmpas cartref Rhodri. Yr aelod Plaid Cymru Chris Franks yw'r cynghorydd lleol a draw yn fan cw mae t欧 Huw Roberts a oedd yn gynghorydd arbennig i Ron Davies yn y Swyddfa Gymreig.

Rhyw ddydd, efallai, y bydd 'na garreg coffa ar d欧 Rhodri- reit ar bwys yr arwydd tafarn sy'n gymaint o ddryswch i gerddwyr ar y llwybr cyhoeddus gerllaw. Yn sicr mae gan y t欧 ei le mewn hanes. Yn 么l y chwedloniaeth yn fan hyn y gwnaeth mam Julie ddryllio gobeithion Rhodri o swydd yn y Swyddfa Gymreig trwy gyfarch arweinydd yr wrthblaid fel hyn 鈥 I know who you are- you're that Lionel Blair鈥.

Nid Tony Blair yw'r unig westai o bwys i fwynhau'r lletygarwch yn Llanfihangel. Nol ym Mis Mai roedd Gweinidog Iechyd Seland Newydd Pete Hodgson yn aros yma, gan gynghori Llafur Cymru yngl欧n a dulliau pleidiau'r wlad honna o glymbleidio.

O bryd i gilydd yn ystod y cyfnod cythryblus ers yr etholiad mae Rhodri wedi gwahodd criw bach o newyddiadurwyr i'w d欧 i'n briffio ac i drafod y symudiadau diweddara. Dros bitsa neu farbiciw ceisiodd esbonio'r sefyllfa o'i safbwynt e a'n holi ni am y teimladau yn y pleidiau eraill.

Fel byswch yn disgwyl roedd Rhodri yn gyson groesawgar a bonheddig ond roedd ganddo un gwyn weddol gyson. Y gwyn honno oedd nad oedd wasg a'r cyfryngau yn scriwtineiddio'r pleidiau eraill i'r un graddau a Llafur. Y teimlad oedd bod Plaid Cymru yn arbennig wedi gwneud addewidion gwario oedd yn amhosib eu cyflawni a bod neb yn y wasg na'r cyfryngau wedi ei herio. Yn yr un modd ychydig iawn oedd wedi ei sgwennu ynghylch yr hyn yr oedd Llafur yn gweld fel gwendidau a chamsyniadau amlwg yn y cytundeb enfys.

Y rheswm rwy'n codi hwn yn fan hyn yw oherwydd fy mod yn meddwl bod na elfen o wirionedd yn y cyhuddiad. Dw i ddim yn meddwl am eiliad bod 'na gynllwyn gwrth-Lafur ymhlith newyddiadurwyr ond yr hyn sy na yw diffyg arbenigedd annibynnol i bwyso a mesur addewidion pleidiol.

Ar lefel Brydeinig mae na adrannau coleg ac academyddion di-rif yn astudio pob cymal o bob maniffesto. Os oes na addewid gwag yn eich rhaglen fe fydd yr Intitute of Fiscal Studies neu eu debyg yn eich dal chi mewn chwinciad.

Yng Nghymru does na ddim byd tebyg. Y duedd felly i newyddiadurwyr yw cofnodi cyhuddiad ac ymateb a gadael i'r cyhoedd benderfynu rhyngddynt. Dw i ddim yn meddwl bod hynny'n ddigon da. Dros y pedir blynedd nesa mae angen i ni fel newyddiadurwyr a'r gwleidyddion feddwl am ffyrdd i wella'r sefyllfa.

Un ffordd o wneud hynny byddai i rhywun fel y 主播大秀 gomisiynu asesiad anibynnol o faniffestos y plediau ond dw i'n amau y byddai'r gorfforaeth yn amharod i wneud hynny rhag ofn iddi 鈥渇ynd yn rhan o'r stori鈥. Ffordd arall o gyflawni'r un peth byddai caniatau i weision sifil roi cyngor i'r gwrthbleidiau am gyfnod penodol cyn etholiad. Mae hynny'n digwydd mewn rhai gwledydd ac fe adawodd John Major i hynny ddigwydd yn San Steffan yn 1997 gan synhwyro ei fod am golli'r etholiad.

Fe roddodd gweision sifil eu barn am gytundeb yr 鈥渆nfys鈥 ond roedd hynny ar ddiwedd y broses. Oes na unrhyw reswm dros eu gwahardd rhag rhoi cyngor niwtral yn gynharach na hynny?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:25 ar 16 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Yn y misoedd cyn yr etholiad, roedd gweision sifil yn asesu addewidion polisi'r prif pleidiau, wrth edrych a'r agweddau cost a deddfwriaethol y maniffestos drafft (yn debig i beth swy'n digwydd yn San Steffan).
    Wrth gwrs, dim ond cyngor oedd hyn ac o weld sut oedd tair maniffesto yn eitha tebyg o rhan cost ac un arall yn addo wario bilyniau mwy, efallai roedd rhai pleidiau yn cymryd fwy o sylw o'r weision sifil nag eraill!

  • 2. Am 23:27 ar 16 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Dewi arall wnaeth wneud y sylw cyntaf gyda llaw - er bo gen i ddim problemau gyda'r neges dim fi wnath ysgrifennu hi !!!!

  • 3. Am 10:22 ar 17 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dau Ddewi! Beth nesaf?

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.