主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Cwis

Vaughan Roderick | 08:54, Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2007


Mae'n bosib eich bod wedi sylwi bod Betsan wedi diflannu o bryd i gilydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Peidiwch becso. Dyw Ms. Powys ddim yn slacio. Mae hi wedi bod yn recordio'r gyfres nesaf o 鈥淢astermind鈥 ar gyfer S4C. Mae hynny yn rhoi esgus i fi atgyfodi'r cwis!

1.Mab Gwilym, seren Llanddewi a chyfaill Carlo.
2.Meddyg yn Walford, llofrudd yn Efrog Newydd a chwyrnwr yn Harlech.
3.Apostol amheus, tad Iago a stemar Sodor.

Rhowch y tri at eu gilydd a phwy sy 'da chi?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:40 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd teifi:

    Dafydd Elis Thomas?

  • 2. Am 09:50 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Ai Dafydd Elis Tomos?

    Dafydd ap Gwilym, ? , Dafydd Iwan

    ?,Brett Easton Ellis,?

    Tomos Didymus, ?, Tomos y Tanc

  • 3. Am 09:52 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Anonymous:

    Dafydd ap Gwilym, ?, Dafydd Iwan

    ?, Brett Easton Ellis, ?

    Tomos Didymus, ?, Tomos y Tanc

    Felly ai Dafydd Elis Tomos sydd yma?

  • 4. Am 10:25 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Dafydd Elis Tomos

  • 5. Am 11:29 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dafydd Elis Thomas oedd y darn hawdd! Oes un rhywun yn gallu enwi'r nhw i gyd. Mae rhai wedi eu henwi eisoes Dafydd ap Gwilym yw mab Gwilym a Dafydd Iwan yw ffrind Carlo. Tomos y Tanc yw stemar Sodor a Brett Easton Ellis awdur "America Psycho" yw llofrudd Efrog Newydd.

  • 6. Am 17:35 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Bil:

    Onid Dafydd Elis Thomas yw'r ateb?
    1 Dafydd ap Gwilym, Dewi (Dafydd) Sant,
    Cyfaill Carlo?
    2Dr Elis (East Enders) Elis Wynne o Harlech (Gweledigaethau a.y.y.b),
    Llofrudd?
    3Tomos yr apostol amheus.

    Ma'r cwisiau 'ma fel rhyw enllyn arbennig i ddilyn prydau arbennig dy negeseuon. Ma' dy benawdau Vaughan ysbrydledig - 'roeddwn yn gwerthfawrogi dy bregeth ddoe, ond i mi y seren ymysg dy holl benawdau heb os ac onibai yw Pen y Mwdwl. Brafo!

  • 7. Am 20:14 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Sori - di bod yn gweithio yn llundain - a gan bo pawb yn dweud Dafydd El rwy'n cytuno !

  • 8. Am 20:48 ar 2 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Anghofiwch 'Mastermind'.

    Beth am 'Brains of Britain'..

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.