Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cynhadleddau Dydd Mawrth

Vaughan Roderick | 11:55, Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2007

10.15; Llafur. Mae swyddogion y grwpiau Llafur ym Mae Caerdydd a San Steffan yn cwrdd heddiw. Cyfaddefodd Jane Hutt ei bod hi'n disgwyl i'r cyfarfod bod yn un "bywiog" ond mynnodd fod cyfarfodydd ar lawr gwlad yn "bositif".
Wrth drafod yr ymosodiadau diweddar gan derfysgwyr dywedodd Jane fod yn rhaid i bawb sylweddoli y gallai Cymru fod yn darged. Dywedodd y byddai'r fforwm aml ffydd yn cwrdd cyn bo hir i drafod y sefyllfa.

11.00; Y Ceidwadwyr; Tipyn o sbort yng nghynhadledd y Ceidwadwyr wrth drafod newidiadau cabinet David Cameron. Mae rhai o newydd-ddyfodiaid 2005 wedi cyrraedd cabinet yr wrthblaid erbyn hyn. Eto i gyd mae aelod o Loegr, Cheryl Gillan, yn parhau'n brif lefarydd ar Gymru. Cwestiwn syml felly i Nick Bourne. Ai agweddau'r aelodau seneddol tuag at ddatganoli oedd yn gyfrifol am y penderfyniad neu ddiffyg talent? Fe wenodd yn rhadlon gan fynnu ei fod wrth ei fodd a'r penodiad ond yn dymuno pob lwc i'r aelodau Cymreig wrth i fân swyddi gael eu llenwi. Yn ddiweddarach dywedodd un AC wrtha’i ei fod yn disgwyl i Cheryl gadw'r swydd tan yr etholiad nesaf yn y gobaith y bydd Jonathan Evans yn ennill Gogledd Caerdydd ac yn gallu cymryd awenau’r blaid seneddol Gymreig.

12.00 Plaid Cymru; Mae Ieuan yn gwrthod dweud sawl gweinidog fyddai gan Blaid Cymru mewn llywodraeth glymblaid. Ond roedd ganddo rybudd i'r aelodau Llafur hynny sydd yn ceisio cyflwyno gwelliannau i'r cytundeb. "Mae'r ddogfen yn sefyll neu'n syrthio fel ac y mae hi" meddai.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.