Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Manion

Vaughan Roderick | 14:36, Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2007

Un ergyd olaf dros yr enfys

"Mae cael sefydlogrwydd yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos nad yw Rhodri Morgan hyd yn oed gallu sicrhâi sefydlogrwydd o fewn y Blaid Lafur." - Nick Bourne

Ateb y Cwis

Doedd neb yn gwbwl cywir er bod nifer yn iawn am y prif ateb. I'ch atgoffa hwn oedd y cwestiwn.

1.Mab Gwilym, seren Llanddewi a chyfaill Carlo.
2.Meddyg yn Walford, llofrudd yn Efrog Newydd a chwyrnwr yn Harlech.
3.Apostol amheus, tad Iago a stemar Sodor.

Rhowch y tri at ei gilydd a phwy sy 'da chi?

Dyma'r atebion

1. Dafydd ap Gwilym, Dafydd o "Little Britain" a Dafydd Iwan.
2. Tom Ellis (Dr. Cousins yn "Eastenders"), Brett Easton Ellis (awdur "American Psycho") ac Ellis Wynne (y bardd cwsg).
3. Yr Apostol Thomas, R.S Thomas a Tomos y Tanc.

Dafydd Elis Thomas

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:41 ar 4 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Vaughan,

    Sori i ddefnyddio y fforwm yma i ofyn cwestiwn amherthnasol, ond sut mae cael deiseb o flaen pwyllgor y cynulliad? oes na wefan/ebost neu fformat electroneg? Welai ddim i helpu ar wefan y Cynulliad.

    Diolch,

    Arfon.

  • 2. Am 19:34 ar 4 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Cwestiwn da, Arfon.
    Gellir trefnu cyflwyno deiseb trwy unrhyw aelod cynulliad. Os am gyngor pellach clerc y pwyllgor yw Steve George sy'n Gymro Cymraeg ac yn foi hynod o ffein. Os oeddet ti'n cysylltu a fe dw i'n siwr y byddai fe'n helpu. Fe wnai dynnu ei sylw at y diffyg ar y wefan.

  • 3. Am 16:52 ar 5 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Mae unrhyw un sydd yn credu fod y Ö÷²¥´óÐã yn euog o 'dumbing down' ddim yn darllen cwis Mr Roderick, mae'n siwr..

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.