Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhyfedd o fyd!

Vaughan Roderick | 16:12, Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2007

Mae Ming Campbell wedi bod yn adrefnu ei gabinet ac mae Lembit wedi cael dyrchafiad. Ef bellach yw llefarydd menter a busnes y blaid. Wel, roedd Lembit wastad yn barod i fentro! Roger Williams yw'r llefarydd newydd ar faterion Cymreig.

Arhoswch am eiliad. Lembit yw arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru- ond nid Lembit fydd yn llefaru ar Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin. Onid yw hynny braidd yn od? Ar ôl dweud hynny mae'r Blaid Felyn wedi colli'r gallu i'n synnu dros y misoedd diwethaf!

Pan ofynnais i un Lib Dem a fyddai hyn yn gorfodi'r Blaid Gymreig i ystyried newid ei harweinydd fe wnaeth e wenu. "Fe ddylet ti wybod erbyn hyn nad oes modd yn y byd i orfodi'n haelodau ni i wneud unrhyw beth!" meddai.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:49 ar 3 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Rheswm da i beidio cael dim i'w wneud gyda phlaid mor annisgybledig ac amateur...circas ydy y Rh Dem yng Nghymru, dydy nhw ddim digon cyfrifol i lywodraethu mewn unrhyw ffordd.

  • 2. Am 10:08 ar 4 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd ann wybodus:

    Roger Williams? Pwy yw e'te? Does gen i ddim cof mod i erioed wedi'i weld e' na'i glywed e'n siarad. Beth yw 'i hanes e'? Oes llun ar gael er mwyn i mi 'nabod e' pan welai i e'?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.