主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

SPADS ETO

Vaughan Roderick | 20:18, Dydd Gwener, 27 Gorffennaf 2007

Mae'n swyddogol erbyn hyn. Fy nghyfaill a chydweithiwr Rhuanedd Richards yw ail gynghorydd arbennig (SPAD) Plaid Cymru. Dw i'n gwybod ers rhai dyddiau ond fe wnaeth Rhuanedd ofyn i mi beidio dweud a dyw pechu SPAD cyn iddo fe neu hi gychwyn yn y swydd ddim yn syniad da!

Dyma'r eildro i gyd-gyflwynydd i mi dderbyn swllt y llywodraeth. Roedd prif-gynghorydd Rhodri Morgan Jo Kiernan a finnau arfer cyflwyno 鈥淕ood Morning Wales鈥 ac wrth gwrs Rhuanedd oedd yn cyflawni'r un dasg ar 鈥淒au o'r Bae鈥.

I'r rheiny sydd ddim yn ei nabod mae Rhuanedd yn ferch i'r Barnwr Phil Richards ac fe safodd ei thad a'i mam fel ymgeiswyr seneddol i Blaid Cymru yng Nghwm Cynon. Fel fi, cafodd ei haddysg yn Ysgol Rhydfelen. Trwy ryfedd cyd-ddigwyddiad roedd hi a Dafydd Trystan (sydd ar fin gadael ei swydd fel prif weithredwr Plaid Cymru) yn yr un flwyddyn a nhw oedd prif-ddisgyblion yr ysgol.

Fedrai ddim dweud cymaint o golled yw Rhuanedd i'r 主播大秀 a chymaint o gaffaeliad fydd hi i Blaid Cymru. Does neb yn gweithio'n galetach na Rhuanedd. Yn ogystal a chwyflwyno 鈥淒au o'r Bae鈥 a 鈥淢aniffesto鈥 hi oedd cydlynydd ystafell newyddion y 主播大秀 yn y bae yn ogystal a bod yn uwch-gynhyrchydd S4C2. Mae'n ganddi hi a'i gwr Steve fab a merch ifanc ac hi yw ysgrifennydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r ffordd y mae menywod fel Rhunaedd yn llwyddo i wneud cymaint tra'n goddef y prima donnas gwrywaidd o'u cwmpas yn ryfeddod cyson i mi.

Mae na un peth ffodus yn hyn oll. Dw i'n nabod Rhuanedd ers oedd hi yn ei chlytiau a pham oedd hi'n dair oed fe wnes i weithio allan ffordd o wybod os oedd hi'n dweud celwydd. Gallai hynny fod yn ddefnyddiol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:46 ar 27 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Daran:

    Wel, wel... Post doniol a gwybodus. Bydd Dau o'r Bae byth yr un peth

  • 2. Am 23:48 ar 27 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Mike:

    This appointment does nothing to quash the belief by many in Labour and the Conservatives that 主播大秀 Wales is full of Plaid Cymru supporters and sympathisers.

    With Alun Shurmer going one way, and Rhuanedd the other. It don't look good, as they say.

    I hope you do allow this comment to go up, as it raises an important point about 主播大秀 impartiality.

  • 3. Am 05:37 ar 28 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    "Swllt y llywodraeth" Da iawn Vaughan. Da i weld y Blaid yn cyflogi y gorau o'n ieuenctid.

  • 4. Am 10:53 ar 28 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Daran:

    Dwi di nabod Rhuanedd am gyfnod hir, gan ddechrau pan oeddwn yn chwarae gwleidyddiaeth myfyrwyr - hi yn cefnogol o'r Blaid a minnau ddim.

    Ta beth yw ei gwleidyddiaeth personol hi, does dim amheuaeth gen i o gwbl bod ei gwaith hi gyda'r 主播大秀 wedi bod yn straight iawn ac heb unrhyw tuedd gwleidyddol pleidiol. Efallai mae rhai yn dadlau ynglyn a'r delwedd o 主播大秀 Cymru, ond realiti y sefyllfa yw bod Rhuanedd wedi bod yn un o goreuon y 主播大秀 ac wedi ymddwyn yn llwyr brofesiynol yno.

    Pob lwc iddi - mae darlledu gwleidyddol Cymru ar ei golled.

  • 5. Am 13:45 ar 28 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Ann Wybodus:

    Beth yw ystyr S P A D?

    A beth yw gwaith SPAD?

  • 6. Am 15:24 ar 28 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    SPecial ADvisor yw spad. Mae nhw'n cael eu pennodi gan y pleidiau i'w cynghori ar bethau fel polisi neu cyfathrebu. Er bod nhw'n cael eu talu o'r pwrs cyhoeddus dyw nhw ddim yn gorfod bod yn wleidyddol niwtral fel gweision sifil eraill.
    ae 'na esboniad llawn fan hyn

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.