Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Frwydr Nesaf- Dwyrain Morgannwg

Vaughan Roderick | 17:41, Dydd Llun, 30 Gorffennaf 2007

Wrth edrych ar y rhagolygon etholiadol yn Nwyrain Morgannwg mae'n anodd rhagweld y bydd mwy na dwy sedd yn newid dwylo. Fe fydd angen gwaith caled iawn dros gyfnod hir os oes unrhyw un am lacio gafael y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd a go brin y bydd Plaid Cymru yn bygwth cadarnleoedd Llafur y cymoedd ar ôl methu gwneud hynny yn etholiad y cynulliad.

Y Ceidwadwyr sy'n bygwth Llafur yn y ddwy sedd allweddol yn fan hyn sef Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg. O'r ddwy Gogledd Caerdydd, sedd Jonathan Morgan yn y cynulliad, yw'r fwyaf addawol i'r Torïaid. Er nad yw wedi ei ddewis yn swyddogol eto Jonathan Evans fydd ymgeisydd y Torïaid. Mae'n ddewis perffaith ar gyfer yr etholaeth. Yn gymhedrol ac yn gwrtais, yn Gymreig heb fod yn rhu Gymreig, mae'n siwtio'r lle i'r dim.

Y cwestiwn mawr yw a fydd Julie Morgan yn sefyll eto? Y teimlad dw i'n cael yw y bydd hi'n mentro unwaith yn rhagor os ydy'r etholiad yn dod yn weddol o fuan. Wedi'r cyfan mae gan Rhodri bedair blynedd i fynd yn y cynulliad ac mae Julie ychydig o flynyddoedd yn iau na'i gwr. Dyw byw'n llawn amser ym Mwnt ddim yn apelio eto! Serch hynny gallai pethau newid os nad oes na etholiad cyn 2009.

Mae Bro Morgannwg yn dalcen caletach i'r Ceidwadwyr. Roedd y canlyniad yn etholiad y cynulliad yn rhyfeddol o agos a does dim dwy waith yn fy meddwl i y byddai'r Ceidwadwyr wedi cipio'r sedd pe bai Alun Cairns wedi mentro sefyll yn yr etholaeth. Alun fydd yr ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol ond mae gen i deimlad efallai ei fod wedi colli ei gyfle. Ar ddiwedd y dydd fe fydd popeth yn dibynnu ar y patrwm Prydeinig yn fan hyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:57 ar 30 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd D thoams:

    O leia Vaughan, wnei di osod ''rhy Gymreig" mewnd dyfyn-nodau!

  • 2. Am 20:15 ar 30 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Bosib iawn y dylwn i! Mae gan Ogledd Caerdydd Gymreictod eithaf rhyfedd. Yn draddodiadol mae pobol y rhan honno o'r ddinas yn ystyried ei hun yn "Gymreig/Welsh" i wahaniaethu eu hun o'r ardaloedd dosbarth gwaith "Gwyddelig". Parc yr Arfau nid Parc Ninian. Capel nid Eglwys ac yn sicr dim defnydd o acen Caerdydd. Roedd y cyn aelodau seneddol Gwilym Jones a Michael Roberts yn engreifftiau perffaith o'r peth. Clywais yn ddiweddar bod Gwilym wedi cael haint ar ol marwolaeth ei dad, Haydn, wrth ddarganfod ei fod wedi cadw ei holl gofnodion ariannol yn Gymraeg. Nid bod hi'n broblem i Gwilym eu deall... cyfaddef hynny oedd y broblem!

  • 3. Am 16:44 ar 31 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae Gogledd Caerdydd yn sedd ddigon diddorol, am i Ted Rowlands ei chipio ym 1966 oddi wrth Donald Box, a'i dal tan 1970, pryd y'i cipiwyd gan Michael Roberts. Yna, tua dechrau'r 1970au, bu'r Comisiwn Ffiniau'n chwarae o gwmpas, gan greu sedd Gogledd-Orllewin Caerdydd (a enillwyd eto gan Michael Roberts, a olynwyd gan Gwilym Jones), wrth ychwanegu un sedd at nifer y seddau yng Nghaerdydd. Yna, bu'r Comisiwn Ffiniau yn chwarae o gwmpas unwaith etom gan greu'r sedd bresennol.

    Er gwaetha'r ffaith fod y torïaid wedi ennill y mwyafrif o'r seddau yn yr etholaeth yn etholiadau'r Cyngor yn 2004, crafu drwodd o hyd wnaeth Julie M yn etholiad 2005, sy'n awgrymu bod ganddi rywfaint o bleidlais bersonol. Pe bai etholiad cyffredinol yn awr, mae'n bosibl, yn wir, mai hi âi i mewn eto, am fod Gordon Brown fel pe bai'n mwynhau 'mis mêl'. 98 oedd mwyafrif y Blaid Lafur yn etholiad Seneddol 1966 pan gipiodd Ted Rowlands y sedd; 66 oedd mwyafrif y Blaid Lafur y tro diwethaf. Mae hyn, a'r ffaith fod mwyafrif Julie M wedi lleihau'n sylweddol, yn awgrymu na fyddai'n rhaid i'r Blaid Lafur golli rhyw lawer o dir i Ogledd Caerdydd newid dwylo eto. Felly, mae mwy o obaith i i Lafur ddal ei gafael ar y sedd os bydd Julie M yn sefyll eto.

  • 4. Am 21:37 ar 31 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Valleysmam:

    Just to note 35 Cardiff Councillors are not seeking re election next year. That could make a difference to the political make up.

  • 5. Am 10:10 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    O.N. Wrth drafod sedd Gogledd Caerdydd ddoe, anghofiais sôn am ffactor arall a allai fod wedi dylanwadu ar ganlyniadau etholiadau'r Cyngor yn 2004, sef amhoblogrwydd personol Russell Goodway. Yn ôl a ddeëllais ar y pryd, roedd y pleidleiswyr wedi cael llond eu bol ar ei ddyfarniadau lwfansau personol a.y.y.b. ac yn awyddus iawn i weld newid. Fyddai'r ffactor hwn ddim wedi effeithio fawr ddim ar yr etholiad Seneddol y flwyddyn ddilynol.

    Ac er gwybodaeth y rhai nad ydynt yn fy adnabod, y rheswm am fy niddordeb personol yn y sedd hon yw fy mod yn arfer byw yno!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.