主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Y Frwydr Fawr Nesaf- Gwent

Vaughan Roderick | 12:14, Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Mae'n bryd i ni ddiweddu'n taith trwy'r etholaethau fydd yn cyfri yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf trwy edrych ar seddi'r De-ddwyrain. Ar un adeg yr unig sedd ddiddorol yn y rhan yma o Gymru oedd Mynwy ac, i fod yn deg, roedd yr amryw ornestau rhwng Huw Edwards a Roger Evans yn hynod ddifyr. Mae Roger wedi diflannu bellach a dyw Huw ddim yn bwriadu ymgeisio ym Mynwy eto. Mae'n annhebyg felly y bydd David Davies yn colli llawer o gwsg wrth edrych tua'r dyfodol.

Am gyfnod byr ar noson cyfri etholiad y cynulliad roedd na sibrydion ar led bod Llafur wedi colli'r ddwy sedd yng Nghasnewydd, y sedd orllewinol i'r Ceidwadwyr a'r sedd ddwyreiniol i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd y gwrthbleidiau yn orobeithiol ond roedd canlyniadau Llafur yn y ddinas yn siomedig. Dw i ddim yn sicr pa mor berthnasol yw hynny i'r etholiad seneddol.

Mae 'na ddau beth sydd angen yn cofio fan hyn. Mae'r nifer sy'n bwrw eu pleidlais mewn etholiad Cymreig yn sylweddol is na'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau San Steffan - yn enwedig mewn etholaethau dinesig. Mae'n weddol amlwg mai cefnogwyr Llafur yn bennaf yw'r bobol sy'n cadw draw o'r gorsafoedd pleidleisio. Yn ail mewn llefydd fel Caerdydd a Chasnewydd mae'n ymddangos bod patrymau pleidleisio'r cynulliad yn debyg iawn i batrwm pleidleisio etholiadau cyngor. Ar draws Caerdydd, fel enghraifft, roedd safleoedd y pleidiau yn y gwahanol etholaethau yn adlewyrchiad perffaith bron o'u cryfder mewn etholiadau lleol. Mae patrwm San Steffan yn wahanol iawn.

Dw i yn meddwl bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol siawns go dda o ennill sedd Dwyrain Casnewydd ym Mae Caerdydd y tro nesaf ond dw i'n amau bod sedd San Steffan tu hwnt i'w cyrraedd- y tro nesaf, o leiaf.

Fe edrychwn ni'n olaf ar sedd fwyaf rhyfedd Cymru, Blaenau Gwent. Ar 么l gwario 拢113,000 ar geisio ennill y sedd yn yr is-etholiad yn 2006- a cholli beth yw gobeithion Llafur y tro hwn? Fe fydd llawer yn dibynnu ar berfformiad Dai Davies fel aelod seneddol lleol. Mae ganddo un fantais (anheg yn 么l Llafur). Yn ystod y blynyddoedd nesaf fe fydd nifer o gynlluniau hir-dymor i wella economi ac ansawdd bywyd Blaenau Gwent yn dechrau dwyn ffrwyth. Fe fydd safle'r gwaith dur yn cael ei weddnewid, y rheilffordd i Gaerdydd yn ail-agor ac mae Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cael ei gwella. Mae na hyd yn oed s么n am sefydlu 鈥淧rifysgol y Cymoedd鈥 yno. Heb os fe fydd Dai a Trish yn ceisio cymryd y clod. Mae'r neges yn un syml - mae aelodau annibynnol yn delifro. Mae'n annheg efallai, ond yn effeithiol.

A fydd Owen Smith yn sefyll eto? Dw i ddim yn gwybod. Dw i'n nabod Owen yn dda o'i gyfnod yn y 主播大秀 a dyw e ddim yn ddyn sy'n hoff o golli. Yn reddfol fe fyddai'n dymuno sefyll eto ond y peth call i wneud fyddai disgwyl i weld beth yw cynlluniau ei fentor gwleidyddol Paul Murphy. Gallai Torfaen gynnig hafan fwy diogel iddo.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.