Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffwl Spid

Vaughan Roderick | 12:59, Dydd Iau, 20 Medi 2007

Fe fydd 'na hen ddigon o gwestiynau i'w hateb yn sgil y ddamwain erchyll ar yr M4 yr wythnos hon ond yn barod mae hi wedi'n hatgoffa o'r trallod teuluol y mae gyrru'n wyllt a chyflymdra yn achosi.

Dw i byth wedi deall y ddadl bod 'na "ddim byd yn gynhenid anniogel mewn cyflymdra". Ar riw lefel fetaffisegol mae hynny'n gywir wrth gwrs. Mae craig sy'n teithio trwy wacter y gofod yr un mor ddiogel beth bynnag yw ei gyflymdra. Ond nid gwacter y gofod yw'n ffyrdd a'n priffyrdd. Mae'n fwy peryglus os ydy'ch teiar yn byrstio wrth deithio am gan milltir yr awr nac yw hi am drideg milltir yr awr. Mae'n fater o ffiseg elfennol bod car yn debyg o achosi mwy o ddifrod ac anaf o daro rhywbeth wrth deithio'n yn gyflym nac wrth deithio'n araf.

Dw i mewn sefyllfa anodd nawr. Dw i am ganmol Heddlu'r Gogledd am yr eil dro mewn deuddydd! Dw i'n addo nad ydw i'n ongli am swydd PR Richard Brunstrom!

Mewn adroddiad newydd datgelir bod y nifer o bobol a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd y Gogledd wedi gostwng 28.1% dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n anodd credu nad oes a wnelo hynny rhywbeth a phlismona cadarn a llym ar ffyrdd yr ardal.

Disgrifiodd y Daily Mail Richard Brunstrom fel "The Mad Mullah of the Traffic Taliban". Yn sicr mae'n gymeriad digon digyfaddawd ond p’un sydd waethaf- dirwy a phedwar pwynt neu oddef anaf difrifol neu brofedigaeth?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:06 ar 20 Medi 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mae hi'n anodd egluro y gostngiad yn y nifer o fobol sydd wedi ei hanafu mewn damweiniau ar ffyrdd y Gogledd...ond mae o'n anhebyg o fod oherwydd y nifer o blismyn sydd allan ar y ffyrdd, niferau sydd wedi dirywio yn erchyll yn y degawd diwethaf.

  • 2. Am 16:07 ar 20 Medi 2007, ysgrifennodd Helen:

    Ar y cyfan, mae pobl ifanc yn llawer tebycach o fentro ar y ffyrdd na rhan hy^n - hormonau sy'n rasio, pur debyg - cyn i rywun ymbwyllo a defnyddio mwy o synnwyr. Mae cwmnïau yswiriant yn cydnabod hyn, ac mae hanesion yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ategu'r union bwynt - cofied pawb drychinebau Glynebwy a Dyffryn Aman, yn ogystal â rhai sy'n mynd yn ôl ymhellach, megis y 4 bachgen o Ysgol y Bont-faen a aeth am dro yng nghar un ohonynt yn ystod awr ginio'r ysgol ryw 35 mlynedd yn ôl. Bu cyfres yn ddiweddar ar Ö÷²¥´óÐã4 ar hanes traffyrdd yn y DU, yn cynnwys digon o ffilmiau archif, ac yn eu plith un o bobl ifanc a oedd yn mynd ati'n unswydd i yrru fel ffyliaid ar hyd y traffyrdd newydd, a dweud eu bod yn gwneud am y wefr! Dyna, yn rhannol, fu'n gyfrifol am i'r llywodraeth ar y pryd bennu'r cyfyngiad o 70mya yn y 60au, er gwaethaf rhai protestiadau.

    Erbyn hyn, mae'r mwyafrif ohonom yn derbyn y cyfyngiad ac yn sylweddoli'n iawn fod rhaid ufuddhau i Reolau'r Ffordd Fawr, er diogelwch pawb. Lleiafrif bach, ond amlwg, yw'r rhai sy'n dewis torri'r rheolau'n fwriadol.

    Mae cyflymdra yn gallu bod yn beryglus iawn yn achos pobl ifanc, ddi-brofiad, nad ydynt yn gallu barnu sefyllfaoedd ar y ffyrdd, felly gallai fod yn syniad da gorfodi pawb sydd newydd basio eu prawf i osod llythyren yn amlwg ar eu ceir i ddangos hynny. Gallai 'N' am 'Newydd' fod yn opsiwn, am fod y llythyren honno eisoes yn cael ei defnyddio mewn gwledydd eraill at yr union bwrpas.

    Ar ben hynny, efallai y byddai cyhuddiad mandadol o ddynladdiad i bawb sy'n achosi marwolaeth ar y ffyrdd trwy yrru'n beryglus / yn feddw, fel bod gan farnwyr hawl i bennu unrhyw ddedfryd, yn cynnwys oes, ar y rhai a ddyfernir yn euog, yn gymorth i atal y lleiafrif hwnnw rhag peryglu bywydau pobl.

  • 3. Am 15:11 ar 21 Medi 2007, ysgrifennodd Helen:

    Cefais brênwêf dros nos - beth am 'sbladdu'n gemegol' y rhai sy'n lladd pobl ar y ffyrdd trwy yrru'n llawer rhy gyflym / yn ddi-hid / dan ddylanwad sylweddau? Pe bai modd rhoi pigiad chwemisol i'r troseddwyr hynny ar ôl iddynt fwrw tymor dan glo, am gyfnod o, dyweder, flwyddyn neu ddwy, nid yn unig y byddai hynny'n debygol o ladd eu hawydd i gyflawni 'brafado' ar y ffyrdd, ond câi hefyd sgîl-effaith arall, lwyr annymunol arnynt - i'r fath raddau fel y caent eu hatal yn y lle cyntaf rhag troseddu yn y fath fodd! Wel dyna'r theori, beth bynnag!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.