Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Linc

Vaughan Roderick | 21:40, Dydd Mawrth, 18 Medi 2007

Ar gyfartaledd mae'r byd yn colli un o'i ieithoedd bob pythefnos. Gellir darllen mwy yn .

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:19 ar 18 Medi 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Ethnologue yn dda hefyd

  • 2. Am 10:53 ar 19 Medi 2007, ysgrifennodd Helen:

    Yn ôl barn David Crystal, mae'r Gymraeg yn weddol ddiogel erbyn hyn, ond be fuasai'r sefyllfa oni bai bod Saunders Lewis wedi traddodi ei araith 'Tynged yr Iaith' ym 1962? Yn ôl meini prawf ieithyddiaeth gymdeithasol, rhaid i siaradwyr unrhyw iaith farnu ei bod yn werth ei throsglwyddo ymlaen i'r genhedlaeth nesaf, ac mae gwerth unrhyw iaith ('prestige' yw'r term swyddogol) yn cael ei bennu yn ôl y gwahanol feysydd y mae ei siaradwyr yn ei defnyddio ynddynt. Wrth reswm, rhywbeth bras iawn yw hyn, ac mae nifer o lyfrau'n trafod y mater hwn yn fanwl iawn, gan nodi'r ffactorau sy'n cyfuno er mwyn sbarduno dyfudiad (shift) iaith. Pan oeddwn ym Mhatagonia ym 1988, roeddwn yn teimlo fy mod yn dyst ar dranc y Gymraeg yno, wrth i rieni siarad Sbaeneg yn unig â'u plant, ond gan fynegi gresyn ar yr un pryd fod yr iaith yn marw (agwedd sgitsoffrenaidd!). Doedd gan y Gymraeg ddim statws swyddogol yno ar y pryd, er bod lle i obeithio erbyn hyn y daw tro ar fyd, yn sgil agor Ysgol Gymraeg Trelew. Amser a ddengys.

  • 3. Am 17:23 ar 19 Medi 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    Dwi'n amheus iawn o pa mor "dda" ydi Ethnologue a dweud y gwir.

    Ar wahan i'r ffaith eu bod yn defnyddio dulliau od o ddynodi beth sy'n ieithoedd a beth sydd ddim, a bod y ffigyrau yn hen ac amheus a dweud y lleiaf, mae yna broblem gen i gyda chymhelliant y pobol sydd wedi creu Ethnologue, sef y , i'w roi at ei gilydd yn y man cyntaf.

    Beth sydd ddim yn glir ar edrychiad cyntaf ar y wefan ydi fod SIL yn sefydliad efengylaidd Cristnogol, gyda gwaith cenhadol rhyngwladol yn rhan greiddiol ohono. Un o'u prif resymau dros gofnodi ieithoedd bychain a phrin y byd yma ydi, nid er mwyn cynyddu dealltwriaeth am ieithoedd a'r angen i'w gwarchod, ond er mwyn cyfieithu'r Beibl i'r ieithoedd hynny a throsi'r brodorion aneallus yma o'u ffyrdd annuwiol. Ddim llawer o gred fanno felly mewn parhau amrywiaeth diwylliannol yn ogystal ag amrywiaeth ieithyddol nagoes?

    Faswn i'n cymryd unrhywbeth sydd ganddynt i'w ddweud gyda phinsiad, nage, potiad go lew o halen cyn ei ddefnyddio.

    [Rhagor ar ]

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.