Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pas ysbyty

Vaughan Roderick | 14:03, Dydd Gwener, 7 Medi 2007

Yfory fe fydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cwrdd i drafod trefni etholiad ar gyfer eu harweinydd yn y cynulliad, tasg a allai fod yn un ddigon diddiolch. "Dysfunctional" yw'r gair a ddefnyddir amlaf gan y pleidiau eraill i ddisgrifio'r grŵp yn y cynulliad ac yn sicr mae 'na densiynau personol a gwleidyddol yn mudferwi rhwng yr aelodau.

Cyn etholiad y cynulliad y gred gyffredinol oedd y byddai Kirsty Williams, yn hwyr neu'n hwyrach, yn olynnu Mike German gyda'r amseriad yn dibynnu ar p’un ai oedd y blaid yn rhan o lywodraeth glymblaid neu'n eistedd ar feinciau'r gwrthbleidiau. Drylliwyd y disgwyliadau hynny ar ôl yr etholiad gyda Kirsty'n cael ei chyhuddo o ddiffyg teyrngarwch ac o gynllwynio i ddryllio clymblaid yr enfys. Erbyn hyn mae'n ymddangos bod Kirtsy ei hun wedi colli diddordeb yn yr arweinyddiaeth.

Mae hynny'n gadael y Blaid mewn picl. Fe fyddai'n bosib i Mike barhau ond ar ôl iddo fethu ddelifro clymblaid ddwywaith does ganddo fawr o hygrededd gwleidyddol. Ond pa ddewis arall sydd na? Peter Black? Elinor Burnham?

Fe ddywedwyd unwaith mai anlwc Michael Foot oedd iddo gael ei ethol yn arweinydd Llafur ar adeg pan nad oedd y blaid yn fodlon cael ei harwain. Mae'n ymddangos bod sefyllfa debyg yn datblygu yn rhengoedd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.