Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhybudd i Lafur

Vaughan Roderick | 16:00, Dydd Iau, 27 Medi 2007

Yfory fe fydd Llafur Cymru yn cyhoeddi canlyniadau arolwg y blaid o'i pherfformiad yn etholiadau'r cynulliad. Mae'n debyg y bydd yr adroddiad hwnnw yn ddi-flewyn ar dafod ynglŷn â methiannau’r blaid ac yn ei chyhuddo o fethu ac addasu i newidiadau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae pob plaid wleidyddol yn cynnal ymchwiliadau tebyg yn sgil etholiad ond mae'n hynod anarferol iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Yn wir hwn yw'r tro cyntaf i mi gofio i hynny ddigwydd ac mae'n arwydd bod Llafur Cymru am sicrhâi bod ei haelodau a'i chefnogwyr yn sylweddoli'r pa mor ddifrifol yw sefyllfa'r blaid.

Fe fydd yr adroddiad yn nodi bod y blaid yn wynebu problemau ar dair ffrynt. Yn gyntaf cafwyd cynnydd llawer mwy sylweddol yn y bleidlais Geidwadol yng Nghymru eleni nac yn etholiadau lleol Lloegr neu etholiad yr Alban. Yn ail cafodd y Blaid ei churo'n rhacs ymhlith y Cymry Cymraeg ac yn drydydd mae cynnydd araf y Democratiaid Rhyddfrydol yn y dinasoedd yn erydu pleidlais y blaid.

Nid nod yr adroddiad yw cynnig atebion ond ceisio sicrhâi nad yw'r aelodau'n meddwl bod y newid yn Downing Street yn ddigon i adfer sefyllfa'r blaid Gymreig. Deallaf fod yr adroddiad yn pwysleisio nad yw apelio at y bleidlais graidd bellach yn dacteg effeithiol gan fod maint y bleidlais honno yn gostwng yn gyson oherwydd newidiadau l cymdeithasol ac economaidd.

Fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r grŵp Llafur yn y cynulliad sydd ar dasg o lunio cynllun i adfer sefyllfa’r blaid.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.