Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tro ar fyd

Vaughan Roderick | 10:38, Dydd Mercher, 12 Medi 2007

Am y tro cyntaf ers blynyddoedd dw i'n colli'r cynadleddau gwleidyddol eleni gan adael y gwaith a'r gloddesta i eraill. Gallai hynny fod yn fendith gyda Ramadan yn cychwyn fory! Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf fe fydd 'na gyfres o newidiadau a gwelliannau i wasanaethau gwleidyddol Cymraeg y Ö÷²¥´óÐã a pharatoi ar gyfer rheiny fyddai dros y mis nesaf.

Beth fedrwch chi ddisgwyl felly? Wel yn gyntaf mae "Maniffesto" wedi dirwyn i ben a'r rhaglen wleidyddol Gymraeg yn dianc o'r geto sabothol. Fe fydd 'na raglen wleidyddol newydd yn yr oriau brig ar S4C gyda rhagor o adnoddau a steil gwbwl newydd. Mwy am hynny yn y man ond fe fydd y rheiny ohonoch chi wnaeth gwyno rhai misoedd yn ôl am ddyblygu rhwng "Maniffesto" a'r "Politics Show" yn falch i wybod na fydd hynny'n digwydd o hyn ymlaen.

Fe fydd na newidiadau yn y gwasanaeth ar lein hefyd gyda'r brif dudalen wleidyddol yn cael ei diweddaru'n amlach a phodlediadau rheolaidd. Gydag unrhyw lwc, dwi'n gobeithio cynnwys elfennau aml-gyfrwng ar y blog hefyd.

Yn y cyfamser- peidiwch â becso. Mae gen i sbeis yn y cynadleddau ac fe wnâi fy ngorau i hel y clecs i gyd!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:36 ar 12 Medi 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Swnio'n wych!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.